Yr oedd Lili Ilse Elvenes, a adnabyddir yn well fel Lili Elbe (28 Rhagfyr 188213 Medi 1931), yn ferch drawsryweddol o Ddenmarc. Roedd hi ymysg y bobl gyntaf un i dderbyn[1]  llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw.[2] Ganwyd Elbe yn Einar Magnus Andreas Wegener[3] ac roedd yn artist llwyddiannus o dan yr enw hwnnw. Ymddangosodd hefyd fel Lili, sillafir Lily weithiau, a fe'i chyflwynwyd yn gyhoeddus fel chwaer Einar. Ar ôl trawsnewid, newidiodd ei henw yn gyfreithiol i Lili Ilse Elvenes[4], yn ogystal â rhoi'r gorau i'w gyrfa beintio. 

Lili Elbe
GanwydEinar Magnus Andreas Wegener Edit this on Wikidata
28 Rhagfyr 1882 Edit this on Wikidata
Vejle Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1931 Edit this on Wikidata
Dresden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain Denmarc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Arddullcelf tirlun Edit this on Wikidata
PriodGerda Wegener Edit this on Wikidata

Arddangosir blwyddyn geni Elbe fel 1886 weithiau. Mae'n debyg mai ffynhonnell hyn yw llyfr amdani, lle newidiwyd rhai ffeithiau er mwyn gwarchod hunaniaethau'r rhai a fanylwyd ynddo. Dengys cyfeiriadau ffeithiol i fywyd gwraig Elbe, Gerda Gottlieb, mai 1882 yw'r dyddiad cywir, oherwydd y ffaith amlwg a briodant tra yn y coleg yn 1904.[5][6] Mae'n debygol iawn bod Elbe yn berson rhyngrywiol,[7][8][9][10] er bod rhai yng anghytuno.[11]

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Man into Woman, yn 1933.[12]

Priodas a modelu

golygu
 
Lili Elbe tua'r flwyddyn 1920

Cwrddodd Elbe â Gerda Gottlieb yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain Denmarc yng Nghopenhagen,[13] priodasant yn 1904, pan oedd Gottlieb yn 19 a Wegener yn 22.[5] Gweithiodd y ddau fel darlunwyr, gydag Elbe yn arbenigo mewn peintio tirluniau, tra'r oedd Gottlieb yn darlunio llyfrau a chylchgronau ffasiwn. Teithiodd y ddau drwy'r Eidal a Ffrainc, cyn iddynt ymgartrefu ym Mharis yn 1912, lle gallai Elbe fyw yn agored fel merch, a Gottlieb fel lesbiad.[5] Derbyniodd Elbe y wobr Neuhausens yn 1907 ac arddangosodd yn Kunstnernes Efterårsudstilling (Arddangosfa Artistiaid yr Hydref), yn Amgueddfa Gelf y Vejle, ac yn y Saloon a Salon d'Automme ym Mharis. Cynrychiola yn Amgueddfa Gelf Vejle yn Nenmarc.[14]

Dechreuodd Elbe wisgo dillad merched tra'n cymryd lle model absennol; fe'i gofynnir i wisgo hosanau a sodlau yn gadael i'w choesau cymryd lle coesau'r model. Synnodd Elbe at ba mor gyfforddus a deimlodd yn y dillad.[14] Dros amser, daeth Gottlieb yn enwog ar gyfer peintio merched hardd gyda llygaid almon eu siâp yn gwisgo dillad ffasiynol. Yn 1913, synnodd y cyhoedd pan ddarganfyddant mai gŵr Gottlieb "Elbe" oedd y model a ysbrydolodd ei darluniad o femmes fatales fechan. [5]

Yn yr 1920au a'r 1930au, ymddangosodd Elbe yn aml fel merch, yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ogystal â chroesawu gwesteion i'w thŷ. Un peth roedd hi'n hoff o'i wneud oedd diflannu yn gwisgo'i dillad modelu ar strydoedd Paris yng nghanol y torfeydd yn ystod y Carnifal.[15][16] Cyflwynir Elbe fel chwaer Einar Wegener gan Gottlieb tra'n gwisgo dillad merched.[2] Dim ond ei chyfeillion agosaf oedd yn ymwybodol o'i thrawsnewidiad.

Llawdriniaethau a diddymiad priodas

golygu
 
Lili Elbe gan Gerda Gottlieb

Yn 1930, aeth Elbe i'r Almaen er mwyn derbyn llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw, a oedd yn arbrofol ar y pryd. Cafodd gyfres o bedair llawdriniaeth dros ddwy flynedd.[16] Gwnaethpwyd y llawdriniaeth gyntaf, cael gwared â'r ceilliau, o dan oruchwyliaeth y rhywolegwr Magnus Hirschfeld ym Merlin.[16] Yr oedd Kurt Warnekros, meddyg yn Nghlinig Dinesig y Merched Dresden, yn gyfrifol am weddill ei thriniaethau.[17] Yn yr ail lawdriniaeth, mewnblannwyd wyfa ar ei chyhyredd abdomenol, yn y drydedd, cafodd wared â'r pidyn a'r ceillgwd,[18] ac yn y bedwaredd, trawsblannwyd croth ac adeiladwyd camlas weiniol.[19][20]

Erbyn llawdriniaeth olaf Elbe, roedd ei hachos yn derbyn cryn dipyn o sylw ym mhapurau newydd Denmarc a'r Almaen. Dirymwyd priodas Elbe i'w gwraig gan lys Danaidd yn Hydref 1930,[21] a newidiwyd ei rhyw a'i henw yn gyfreithiol, gan gynnwys derbyn pasbort fel Lili Ilse Elvenes. Rhoddodd y gorau i'w pheintio, yn credu mai elfen o hunaniaeth Einar oedd. Wedi diddymiad ei phriodas, dychwelodd i Ddresden ar gyfer ei llawdriniaeth derfynol.

Marwolaeth

golygu

Ym Mehefin 1931, cafodd Elbe ei phedwaredd llawdriniaeth, a gynhwysodd trawsblaniad y groth ac adeiladu gwain, y ddwy yn driniaethau arbrofol ar y pryd.[19] Bu farw tri mis wedi'r llawdriniaeth oherwydd parlys y galon a achosir gan drawsblaniad y groth.[22][23][19][20]

Aeth Gottlieb ymlaen i briodi'r swyddog milwrol, awyrennwr a diplomydd Eidalaidd, yr Uwchgapten Fernando "Nando" Porta. Symudant i Foroco lle cafodd wybod am farwolaeth Elbe. Yn ystod eu priodas, gwariodd Fernando gynilion Gerda yn eu cyfanrwydd, ac ar ôl cyfnodau o fyw ym Marrakech a Chasablanca, ysgarodd y cwpl.[20] Dychwelodd Gottlieb i Ddenmarc, lle bu farw "heb yr un geiniog" yn 1940.[20]

Yn niwylliant poblogaidd

golygu

Ysgrifennodd y llyfr Man into Woman: The First Sex Change am Elbe a fe'i gyhoeddwyd yn 1933.[24]

Rhoiff MIX Copenhagen bedair gwobr "Lili" a enwir ar ôl Elbe.[25]

Mae nofel 2000 David Ebershoff, The Danish Girl, yn gyfrif ffuglennol o fywyd Lili Elbe.[26] Gwerthodd yn dda yn rhyngwladol a fe'i chyfieithwyd i ddwsin o ieithoedd. Derbyniodd y fersiwn ffilm, a gynhyrchwyd gan Gail Mutrux a Neil LaBute ac sy'n serennu Eddie Redmayne fel Elbe, adolygiadau da yng Ngŵyl Ffilm Fenis ym Medi 2015.[27] Er hyn, mae rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i gastio dyn cis-ryweddol i chwarae merch drawsryweddol[28].

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hirschfeld, Magnus.
  2. 2.0 2.1 Lili Elbe. andrejkoymasky.com. 17 May 2003
  3. Meyer, Sabine (2015), »Wie Lili zu einem richtigen Mädchen wurde« – Lili Elbe: Zur Konstruktion von Geschlecht und Identität zwischen Medialisierung, Regulierung und Subjektivierung, p. 15, pp. 312-313.
  4. (Meyer 2015, pp. 311–314)
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 She and She: The Marriage of Gerda and Einar Wegener.
  6. "Ejner Mogens Wegener, 28-12-1882, Vejle Stillinger: Maler".
  7. Hoyer, ed., Niels (2004).
  8. "Lili Elbe’s autobiography, Man into Woman" Archifwyd 2015-03-28 yn y Peiriant Wayback.
  9. Vacco, Patrick (29 April 2014).
  10. "Could this be Eddie Redmayne's most challenging role?"
  11. Kaufmann, Jodi (January 2007).
  12. "Lili Elbe - Painter - Biography.com". biography.com.
  13. "Conway's Vintage Treasures".
  14. 14.0 14.1 The Arts and Transgender. renaissanceblackpool.org
  15. Gerda Wegener. get2net.dk
  16. 16.0 16.1 16.2 "Lili Elbe (1886–1931)" Archifwyd 2015-08-03 yn y Peiriant Wayback.
  17. Brown, Kay (1997) Lili Elbe.
  18. (Meyer 2015, pp. 271–281)
  19. 19.0 19.1 19.2 "Lili Elbe Biography".
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 Harrod, Horatia (8 December 2015).
  21. (Meyer 2015, pp. 308–311)
  22. "Lili Elbe: the transgender artist behind The Danish Girl".
  23. "The Danish Girl (2015)".
  24. Hoyer, Niels (1933).
  25. "In Competition" Archifwyd 2017-10-02 yn y Peiriant Wayback.
  26. "BOOKS OF THE TIMES; Radical Change and Enduring Love".
  27. "‘The Danish Girl’ Wows With 10-Minute Standing Ovation In Venice Premiere" Archifwyd 2019-04-15 yn y Peiriant Wayback.
  28. Denham, Jess (September 1, 2015).