The Danish Girl (ffilm)
Mae The Danish Girl yn ffilm ddrama ffug-fywgraffyddol Brydeinig-Americanaidd a ymddangosodd yn 2015. Fe'i cyfarwyddwyd gan Tom Hooper, a fe'i seiliwyd ar y nofel o'r un enw gan David Ebershoff a gyhoeddwyd yn 2000. Ysbrydolwyd y llyfr yn fras gan fywydau'r peintwyr Danaidd Lili Elbe a Gerda Wegener.[2] Mae Eddie Redmayne yn serennu yn y ffilm fel Elbe, un o dderbynyddion adnabyddadwy cyntaf llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw. Mae Alicia Vikander yn chwarae rhan Wegener, ynghyd â Matthias Schoenaerts fel Hans Axgil a Ben Whishaw fel Henrik.
Poster Rhaghysbyseb | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tom Hooper |
Cynhyrchydd | Tim Bevan Eric Fellner Anne Harrison Tom Hooper Gail Mutrux |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Lucinda Coxon Seiliedig ar: The Danish Girl gan David Ebershoff |
Serennu | Eddie Redmayne Alicia Vikander Matthias Schoenaerts Ben Whishaw Sebastian Koch Amber Heard |
Cerddoriaeth | Alexandre Desplat |
Sinematograffeg | Danny Cohen |
Golygydd | Melanie Ann Oliver |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Working Title Pretty Pictures Revision Pictures Senator Global Productions Focus Features Universal Pictures International |
Dyddiad rhyddhau | 5 Medi 2015 (Fenis)[1] 27 Tachwedd, 2015 (Yr Unol Daleithiau) 1 Ionawr, 2016 (Y Deyrnas Undedig) |
Amser rhedeg | 119 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Fe'i sgriniwyd fel rhan o'r brif gystadleuaeth yn y 72ain Gŵyl Ffilm Fenis,[3][4] ac ymddangosodd yn y rhan Gyflwyniadau Arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2015.[5] Rhyddhawyd y ffilm yn gyfyngedig ar 27 Tachwedd 2015 gan Focus Features yn yr Unol Daleithiau.[6] Rhyddhawyd y ffilm ar 1 Ionawr 2016, yn y Deyrnas Unedig gan Universal Pictures International.[7]
Plot
golyguYn y diwedd, derbynia Lili un o'r llawdriniaethau ailgyfeirio rhyw o ddyn i ferch gyntaf. Gyda chymorth Dr. Warnerkos (Sebastian Koch), derbynia driniaeth dwy ran, y gyntaf yn cael gwared â'i horganau cenhedlu allanol ac wedyn, wedi cyfnod o wella, adeilada wain. Brwdfrydedd Lili i gael gwared ag unrhyw olion o'i hanatomi gwrywaidd sy'n ei harwain i ruthro'r gyfes o driniaethau, ac mae'n marw yn y pen draw o ganlyniad i'r gymhlethdodau a achoswyd. Mae'r ffilm yn cloi gyda Gerda a Hans yn ôl yn Nenmarc; mae sgarff oedd Lili yn ei wisgo ac a roddodd i Gerda cyn ei lawdriniaeth yn cael ei gipio gan y gwynt.
Cast
golygu- Eddie Redmayne fel Lili Elbe / Einar Wegener
- Alicia Vikander fel Gerda Wegener
- Matthias Schoenaerts fel Hans Axgil
- Ben Whishaw fel Henrik
- Amber Heard fel Ulla
- Sebastian Koch fel Warnekros
- Emerald Fennell fel Elsa
- Adrian Schiller fel Rasmussen
Rhyddhad
golyguAr 4 Mawrth, 2015, datgelodd Focus Features y rhyddheir y ffilm yn gyfyngedig ar 27 Tachwedd 2015.[8] Ymddangoswyd y ffilm am tro cyntaf yn y 72ain Gŵyl Ffilm Fenis ar 5 Medi 2015.[9][10] Rhyddhawyd y ffilm ar 1 Ionawr 2016 yn y Deyrnas Unedig.[7]
Marchnata
golyguDatgelwyd y ddelwedd gyntaf o Redmayne fel Lili Elbe ar 26 Chwefror 2015.[11] Rhyddhawyd pâr o bosteri o Redmayne a Vikander wedyn ym mis Awst.[12] Ar 1 Medi, 2015, rhyddhawyd y rhaghysbyseb gyntaf.[13] Ar 19 Tachwedd, 2015, rhyddhawyd clip cyntaf y ffilm.[14]
Acolâdau
golyguGwobrau | ||||
---|---|---|---|---|
Gwobr | Categori | Derbynydd(ion) a dewisddyn(ion) | Canlyniad | |
72ain Gŵyl Ffilm Fenis [15] | Queer Lion | Tom Hooper | Enillodd | |
Golden Lion | Tom Hooper | Enwebwyd | ||
Gwobr Green Drop | Tom Hooper | Enwebwyd | ||
Gwobrau Ffilmiau Hollywood | Hollywood Director Award | Tom Hooper | Enillodd | |
Hollywood Breakout Actress Award | Alicia Vikander | Enillodd | ||
Hollywood Film Composer Award | Alexandre Desplat | Enillodd | ||
73rd Golden Globe Awards | Best Actor in a Motion Picture - Drama | Eddie Redmayne | I'w gyhoeddi | |
Best Actress in a Motion Picture - Drama | Alicia Vikander | I'w gyhoeddi | ||
Best Original Score | Alexandre Desplat | I'w gyhoeddi | ||
Indiana Film Journalists Association Awards[16] | Best Director | Tom Hooper | I'w gyhoeddi | |
Best Supporting Actress | Alicia Vikander | I'w gyhoeddi | ||
Best Actor | Eddie Redmayne | I'w gyhoeddi | ||
20th Satellite Awards | Best Director | Tom Hooper | I'w gyhoeddi | |
Best Actor | Eddie Redmayne | I'w gyhoeddi | ||
Best Supporting Actress | Alicia Vikander | I'w gyhoeddi | ||
Best Original Score | Alexandre Desplat | I'w gyhoeddi | ||
Best Adapted Screenplay | Lucinda Coxon | I'w gyhoeddi | ||
Best Art Direction and Production Design | Eve Stewart | I'w gyhoeddi | ||
Best Costume Design | Paco Delgado | I'w gyhoeddi | ||
22nd Screen Actors Guild Awards | Outstanding Performance by an Actor in a Leading Role | Eddie Redmayne | I'w gyhoeddi | |
Outstanding Performance by an Actress in a Supporting Role | Alicia Vikander | I'w gyhoeddi |
Gwaharddiad
golyguGwaharddwyd y ffilm yn Qatar ar sail llygredd moesol,[17] fe'i gwaharddwyd hefyd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Bahrain, Gwlad Iorddonen, Ciwait a Maleisia.[18]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "THE DANISH GIRL (15)". British Board of Film Classification. 3 Rhagfyr, 2015. Cyrchwyd 3 Rhagfyr, 2015. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help) - ↑ "BOOKS OF THE TIMES; Radical Change and Enduring Love". The New York Times. February 14, 2000. Cyrchwyd December 11, 2015.
- ↑ "Venice Film Festival: Lido Lineup Builds Awards Season Buzz – Full List". Deadline. Cyrchwyd 29 July 2015.
- ↑ "Venice Fest Reveals Robust Lineup Featuring Hollywood Stars and International Auteurs". Variety. Cyrchwyd 29 July 2015.
- ↑ "Toronto to open with 'Demolition'; world premieres for 'Trumbo', 'The Program'". ScreenDaily. 28 July 2015. Cyrchwyd 28 July 2015.
- ↑ Hatchett, Keisha (2015-03-04). "'The Danish Girl' starring Eddie Redmayne gets awards season release date". EW.com. Cyrchwyd 2015-09-06.
- ↑ 7.0 7.1 "Lana Wachowski helped Eddie Redmayne prepare for The Danish Girl". GayTimes.co.uk. November 24, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-25. Cyrchwyd November 25, 2015.
- ↑ Sneider, Jeff (March 4, 2015). "Eddie Redmayne's Transgender Drama 'The Danish Girl' Gets Awards Season Release Date". thewrap.com. Cyrchwyd March 9, 2015.
- ↑ "Two Matthias Schoenaerts' movies at Venice Film Festival". deredactie.be. July 30, 2015. Cyrchwyd August 12, 2015.
- ↑ "72nd Venice International Film Festival Screening Schedule". labiennale.org. August 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-05. Cyrchwyd August 12, 2015.
- ↑ Lloyd, Kenji. "Eddie Redmayne Transforms Into Transgender Painter Einar Wegener in First Look at The Danish Girl". Final Reel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-12-31.
- ↑ Lloyd, Kenji (August 27, 2015). "Stunning First Posters for The Danish Girl with Eddie Redmayne & Alicia Vikander". Final Reel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-08. Cyrchwyd 2015-12-31.
- ↑ Gerard, Jeremy (2015-09-01). "'The Danish Girl' Trailer: Eddie Redmayne & Alicia Vikander Drama First Look". Deadline. Cyrchwyd 2015-09-06.
- ↑ McGovern, Joe (November 19, 2015). "Eddie Redmayne and Alicia Vikander recall fateful first kiss in The Danish Girl clip". EntertainmentWeekly.com. Cyrchwyd November 21, 2015.
- ↑ "LIVE: The winners of the 72nd Venice Film Festival". Cyrchwyd 12 September 2015.
- ↑ The Indiana Film Journalists Association Begins Nominations Process for 2015 Awards
- ↑ The Independent 12 January 2016 The Danish Girl banned in Qatar on grounds of 'moral depravity'
- ↑ The Hollywood Reporter January 13, 2016 'The Danish Girl' Pulled From Cinemas in Qatar