Alaw (blodyn)

(Ailgyfeiriad o Liliaceae)

Planhigyn gyda blodau mawr addurnol yw alaw (neu lili).

Alaw
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonteulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonLiliales Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 69. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Mathau cyffredin yng Nghymru golygu

Nymphaea alba alaw (enw benywaidd), Lili Ddŵr Wen, Alaw, Ala y Dŵr, Alaw y Llyn, Bwltis, Godywydd, Lili-ddŵr Wen, Lili Gwyn y Dŵr, Magwyr Wen, Nymphaea alba, white water-lily[1]

Nuphar lutea lili'r-dŵr felen (enw benywaidd), Lili Ddŵr Felen, Bwltis, Lili Melyn y Dŵr, Bwltys, Godowydd, Lili Felen y Dŵr, Lili Melyn y Dŵr, Melyn y Dŵr, Mwltws, Myltys, yellow water-lily.[1]

Alaw (Nymphaea alba) golygu

Llenyddiaeth golygu

Dyma'r lili yr ysgrifennodd y bardd T. H. Parry-Williams amdani ar Lyn y Gadair. (Gweler erthygl Nuphar lutea am y stori hon yn llawn):

Ymhen Llyn y Gadair, nid nepell o'r sarn, mae yna lili yn y merddwr [tua SH567522 yn ôl y map OS] wrth droed Y Garn

“Alaw” oedd enw gwreiddiol y lili ddŵr wen, a dyna welodd Parry-Williams "yn ddiog ddiysbryd yng nghwr y llyn - a'r petalau er hynny yn syndod o wyn". Roedd yr alaw yn fodel o wynder yn Llyfr Gwyn y 13g hefyd - "Gwynnach oedd na'r alaw". Wn i ddim beth wnaeth y lili i haeddu'r fath ensyniadau difrïol gan y Bardd o Ryd Ddu: "coesau yn sownd mewn llysnafedd llaes"...a blodau "lleicion, gludiog, di-sawr yn pendympian ar wyneb y dyfnjiwn mawr..." Onid alarch y blodau yw hi i bawb arall? O leiaf gall neb ei gyhuddo o fod yn sentimental nac yn ystrydebol.[2]

Lili'r-dŵr felen Nuphar lutea golygu

Llenyddiaeth golygu

'Yn Rhifyn 27 cyfeiriwyd at y lilïau gwynion y soniodd TH Parry Williams amdanynt yn ei gerdd i’r planhigyn hwn. Awgrymwyd fod y gerdd yn ddigon manwl i roi Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans i leoliad y lili yng nghyfnod y bardd, ac o’r disgrifiad “wrth droed Y Garn” cynigiais SH567522. Cynigwyd hefyd y gallai’r lilïau fod yno yn yr un fan o hyd. Dyma Jeremy Williams yn derbyn yr her, ac fe ymwelodd â’r llecyn ar 1 Awst 2010. Dyma yr ysgrifennodd i’r Bwletin:

Rachel and I braved the bogs around Llyn-y-Gader at Rhyd-ddu today in search of lilies. We first saw fish jumping, then some sparse bog bean. Then, just off the end of the old quarry spoil spur, a patch of lilies with a few large rocks in the water beyond. If you were wandering around the lake, it would be just the spot you might stop for a picnic. Dry slate spoil to sit on, a view across the lake to Rhyd-Ddu, Moel Eilio ridge, Yr Wyddfa and Yr Aran, and a patch of lilies, perhaps in flower. The grid ref is very close to the one given, SH 5669 5209[sef, fel cyfeirnod 6-ffigwr SH567521].

Y lili ddŵr felen oedd y rhywogaeth a welodd JC ar y llun yn ôl y llun a dynnodd.[3] Ymddengys bod THP-W wedi newid y rhywogaeth yn ei gerdd (am resymau barddonol) o felyn i wyn - neu, mai'r un wen oedd ar y llyn yn ei amser ef. Un posibiliad arall wrth gwrs yw na chymerodd y bardd unrhyw sylw o gwbl o beth oedd yn tyfu ar y llyn, ac mai ffrwyth ei ddychymyg oedd y cyfan!

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Planhigion Blodeuol; Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 27
  3. Bwletin Llên Natur 31