Lin-Manuel Miranda
Actor, canwr, cyfansoddwr a dramodydd o'r Unol Daleithiau yw Lin-Manuel Miranda (ganed 16 Ionawr 1980). Mae'n fwyaf adnabyddus am greu a serennu mewn sioe gerdd In the Heights a Hamilton yn Broadway, UDA. Roedd o wedi helpu ysgrifennu caneuon i'r ffilm Disney Moana yn 2016 a serennodd yn y ffilm Mary Poppins Returns.
Lin-Manuel Miranda | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1980 Manhattan |
Man preswyl | Manhattan |
Label recordio | Walt Disney Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, canwr, actor llwyfan, rapiwr, dramodydd, cyfarwyddwr theatr, cyfansoddwr caneuon, cyfieithydd, libretydd, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, llenor, cyfansoddwr, awdur geiriau |
Adnabyddus am | In the Heights, Star Wars: The Force Awakens, Moana, Mary Poppins Returns, Hamilton, Tick, Tick... Boom!, Encanto |
Arddull | sioe gerdd |
Math o lais | tenor |
Priod | Vanessa Nadal |
Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Pulitzer am Ddrama, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Book of a Musical, Cymrodoriaeth MacArthur, Grammy Award for Best Musical Theater Album, Tony Award for Best Original Score, Primetime Emmy Award for Outstanding Original Music and Lyrics, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Drama League Award, Clarence Derwent Awards, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Audie Award for Best Male Narrator, Grammy Award for Best Song Written for Visual Media, Lucille Lortel Award for Outstanding Lead Actor in a Musical |
Gwefan | http://linmanuel.com/ |
Bywyd cynnar
golyguCafodd Miranda ei eni yn Ninas Efrog Newydd o fewn y cymdogaeth o Inwood, yn fab i Luz Towns, seicolegydd clinigol, a Luis A. Miranda, ymgynghorydd Parti Democrataidd. Mae gan Miranda chwaer hyn o'r enw, Luz. Yn ystod ei blentyndod, roedd Miranda wedi treulio un mis pob blwyddyn hefo ei nain a'i daid yn Vega Alta, Puerto Rico.
Bywyd personol
golyguPriododd Miranda ei ffrind ysgol, Vanessa Adriana Nadal, yn 2010. Cawsant ddau fab: Sebastian yn 2014. Cyhoeddwyd beichiogrwydd Nadal ar 3 Rhagfyr 2017 a ganwyd ail, fab Francisco ar 2 Chwefror 2018.
Ar ôl cyfarfod y cyn Arlywydd Barack Obama ym Mawrth 2016, ymunodd Miranda a'r Senglau Americanaidd Kirsten Gillibrand, Chuck Schumer, Elizabeth Warren ac aelodau Democrataidd eraill i alw am weithred er mwyn cefnogi Bil Seneddol yn Washington a oedd yn caniatáu Puerto Rico i ddatgan eu methdaliad, er mwyn helpu eu dyledion o $70 biliwn. Roedd Miranda hefyd yn actif ar ôl Hurricane Maria a'i effaith yn Puerto Rico. Erbyn Rhagfyr 2017, roedd yr elw o'i gân Almost Like Praying wedi helpu'r Ffederasiwn Hispanig i godi $22 miliwn at ymdrechion achub a chymorth ar ôl y drychineb.