Proses brintio ar wyneb gwastad yw lithograffeg[1] neu faenargraffiad[2] sydd yn manteisio ar y ffaith na ellir cymysgu sylweddau seimllyd ac olewaidd â dŵr. Caiff yr arwyneb ei drin mewn modd sy'n peri i'r hyn y bwriedir ei brintio dderbyn inc a'r gweddill yn ei wrthod. Yna argraffir y llun ar bapur gan ddefnyddio gwasg arbennig i greu print cain, neu ar silindr rwber mewn achos printio masnachol.

Maen gyda'r ddelwedd negatif (chwith) a'r print positif ar bapur (dde) sy'n dangos hen fap o ddinas München.

Dyfeisiwyd y broses yn 1796 gan Alois Senefelder ym München, yr Almaen. Defnyddiodd galchfaen mandyllog, felly'r enw Almaeneg Lithographie o'r geiriau Groeg λίθος (líthos, "carreg") a‎ γράφειν (gráphein, "ysgrifennu"). Ni ddaeth y broses yn hysbys nes 1818, pan gyhoeddodd Senedfelder Vollständiges Lehrbuch der Steindruckerey ("Cwrs Cyflawn mewn Lithograffeg").[3] Bellach, defnyddir platiau metel neu blastig yn y broses fasnachol yn hytrach na charreg.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  lithograffeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
  2.  maenargraffiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
  3. (Saesneg) Lithography. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.

Darllen pellach

golygu
  • F. H. Man, Artists' Lithographs: A World History (1970).
  • J. Pennell a E. Pennell, Lithographs and Lithographers (1915).
  • V. Strauss, Lithographers Manual (2 gyfrol. 1958).
  • W. Weber, A History of Lithography (1966).