Brân
genws o adar
- Am y cymeriad ym Mhedair Cainc y Mabinogi gweler Bendigeidfran fab Llŷr. Gweler hefyd Brân (gwahaniaethu).
Brain | |
---|---|
Brân Dyddyn (Corvus corone) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Corvus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
40+, gweler testun |
Aderyn yn nheulu'r Corvidae yw Brân. Nodweddir llawer o aelodau'r teulu yma gan blu, pig a thraed duon ac mae llawer ohonynt yn crawcio â llais cras. Mae rhywogaethau megis Ysgrech y Coed (Garrulus glandarius) hefyd yn aelodau o'r Corvidae, ond ni ystyrir hwy yn "Frain" yn y defnydd cyffredin o'r gair; mae eu plu hwy yn llawer mwy lliwgar.
Rhai aelodau o'r genws Corvus:
- Jac-y-do (Corvus monedula)
- Jac-y-do Dauria (Corvus dauuricus)
- Brân y Tai (Corvus splendens)
- Ydfran (Corvus frugilegus)
- Brân Dyddyn (Corvus corone)
- Brân Lwyd (Corvus cornix)
- Brân y Goedwig (Corvus macrorhynchos)
- Brân Fraith (Corvus albus)
- Cigfran Yddf-frown (Corvus ruficollis)
- Cigfran Gynffondaen (Corvus rhipidurus)
- Cigfran (Corvus corax)
Gweler hefyd y Frân Goesgoch (Pyrrhocorax pyrrhocorax) a'r Frân Bigfelen (Pyrrhocorax graculus).