Llanddewi Cil Peddeg
Pentre bychan yn Swydd Henffordd yw Llanddewi Cil Peddeg (Saesneg: Kilpeck). Saif tua 9 milltir o Henffordd, i'r de o ffordd yr A465 i'r Fenni, a thua 5 milltir o ffin Cymru a Lloegr. Mae'n adnabyddus am ei heglwys blwyf wedi'i gysegru at y saint Mair a Dewi, sydd yn enghraifft blaenllaw o bensaernïaeth Normanaidd (neu Romanesg). Adeiladwyd hi tua 1140. Bu hefyd castell mwnt a beili Normanaidd ar y safle ond nid yw hynny bellach yn sefyll.
![]() | |
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9697°N 2.81°W ![]() |
Cod SYG | E04000784, E04012987 ![]() |
Cod OS | SO444304 ![]() |
Cod post | HR2 ![]() |
![]() | |
Hyd at y 9g, pan gorchfygwyd yr ardal o'i amgylch gan Mercia, bu'r pentref yn rhan o deyrnas Ergyng. Wedi'r Concwest Normanaidd daeth yr ardal i gael ei alw'n Archenfield ac fe'i lywodraethwyd fel rhan o'r Mers. Daeth yn rhan o Swydd Henffordd yn yr 16g, ond parhaodd defnydd o'r Gymraeg yno hyd at y 19g.