Llanfihangel Bachellaeth
Plwyf eglwysig yng Ngwynedd yw Llanfihangel Bachellaeth yng nghymuned Buan. Fe'i lleolir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanbedrog ac mae'n rhan o reithoriaeth Llanbedrog.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.881°N 4.52°W |
Yn yr Oesoedd Canol bu Llanfihangel Bachellaeth yn rhan o gwmwd Cafflogion yng nghantref Llŷn.
Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Mihangel. Cyfeiria'r yr enw 'Bachellaeth' at safle hen blasdy yn y gymdogaeth, i gyfeiriad Madryn, yn ôl yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).[1] Ceir sawl Llanfihangel yng Nghymru ac fel rheol ceir enw arall wedi'i atodi er mwyn gwahaniaethu; ond dyma'r unig Llanfihangel yn Llŷn. Mae eglwys y plwyf yn cael ei ddefnyddio fel stiwdio artist erbyn hyn (2010).
Gweler hefyd
golygu- Am restr gynhwysfawr o lefydd o'r enw 'Llanfihangel', gweler yma.
- Ar Ynys Môn, ceir:
- Mihangel
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910), tud. 120.