Madryn (stâd)

ystâd yng Ngwynedd

Stâd ar benrhyn Llŷn oedd yn arfer bod ymhlith y pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Madryn. Roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth a bywyd cymdeithasol Llŷn am gyfnod hir.

Madryn
Castell Madryn (1872).jpg
Castell Madryn a'r gatws, tua 1872
Mathystad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.895094°N 4.55011°W Edit this on Wikidata
Perchnogaethteulu Jones-Parry Edit this on Wikidata

Safai'r stâd i'r de o Forfa Nefyn ac i'r gogledd-ddwyrain o fryn Carn Fadryn, yng nghymuned Buan. Castell Madryn oedd enw'r plasdy. Y mwyaf adnabyddus o berchenogion Madryn oedd Syr Love Jones-Parry, fu a rhan mewn sefydlu y Wladfa ym Mhatagonia. Enwyd Porth Madryn yno ar ôl ei stâd.

Erbyn hyn mae Castell Madryn wedi ei chwalu, a'r tir o'i amgylch yn wersyll carafannau. Erys y gatws, lle ganed y bardd John Owen Williams (Pedrog).

Gweler hefydGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Trebor Evans, Teulu Madryn (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)