Llawysgrifau Cwrtmawr

Casgliad sylweddol o lawysgrifau Cymraeg gwerthfawr a gasglwyd gan John Humphreys Davies o Gwrtmawr, ger Llangeitho, Ceredigion yw Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan Davies eu hun.

Llawysgrifau Cwrtmawr
Cwrtmawr
Enghraifft o'r canlynolcasgliad o lawysgrifau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1543 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth Gymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
PerchennogJohn Humphreys Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18g. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Trosglwyddwyd rhan gyntaf llawysgrifau Cwrtmawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1925 (llawysgrifau 1-50), a throsglwyddwyd y gweddill (llawysgrifau 51-1492) ar ôl marw J H Davies ym 1926.

Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrifau:

John Jones (‘Myrddin Fardd’; 1836-1921)
Peter Bailey Williams (1723-96)
William John Roberts(‘Gwilym Cowlyd’; 1828-1904)
Daniel Silvan Evans (1818-1903)
teulu Richards, Darowen

Plasty hynafol ger Llangeitho yw Cwrtmawr (hefyd Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion T. I. Ellis amdano yn chwarter cyntaf yr 20g, pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1952), tt. 61-2.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.