Llewelyn Lewellin

clerigwr

Clerigwr oedd Llewelyn Lewellin (3 Awst 179825 Tachwedd 1878).

Llewelyn Lewellin
Ganwyd3 Awst 1798 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig, offeiriad Edit this on Wikidata

Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y Clasuron, a graddio'n B.A. ym 1822, yn M.A. ym 1824, yn B.C.L. ym 1827, ac yn D.C.L. ym 1829. Cafodd urddau diacon ym 1822 ac fe'i gwnaed yn offeiriad ym 1823, ar law esgob Rhydychen. Ym 1826 cafodd gynnig, a derbyniodd, swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Ond yn hytrach na mynd yno, aeth, ym 1827, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan fel ei brifathro cyntaf, a bu yno hyd ei farw ar 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llambed o 1843 ymlaen ac yn ddeon Tyddewi o 1843 ymlaen. Fe'i claddwyd yn Llambed.

Ffynhonnell golygu