Llinad y dŵr
Lemna minor | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Alismatales |
Teulu: | Araceae |
Genws: | Lemna |
Enw deuenwol | |
Lemna minor (L.) Griseb. | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn blodeuol ag un had-ddeilen ('monocotyledon) yw Llinad y dŵr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Araceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lemna minor a'r enw Saesneg yw Common duckweed. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llinad, Bwyd Hwyaid, Bwyd-hwyaid Bychan, Llinad y Dŵr Lleiaf, Llinhad y Dŵr Lleiaf, Llinos y Dwfr a Llinos y Dŵr.
Mae ganddo ddwy neu dair o ddail ac wrth i ychwaneg dyfu mae'r planhigyn yn ymrannu. Mae ganddo hefyd wreiddyn sy'n ei angori i wely'r pwll. Mae'r gwreiddyn gwyrdd golau yn 1–2 cm o hyd, yn ofal ac yn 0.6–5 mm o led. Mae yn y dail gwagleoedd, er mwyn iddynt arnofio.
Mae'r casgliad byw mwyaf o'r teulu hwn yn cael ei gadw yn Missouri Botanical Gardens.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur