Llinell Reilffordd Coryton

Mae Llinell reilffordd Coryton yn rheilffordd cymudwyr yng Nghaerdydd o ganol y ddinas  i'r Mynydd Bychan, Llwynfedw, Rhiwbeina, yr Eglwys newydd a Coryton. Fe'i hagorwyd yn wreiddiol fel rhan o'r brif linell Rheilffordd Caerdydd.

Llinell Reilffordd Coryton
Terfynfa Llinell Coryton ger orsaf reilffordd Coryton
Trosolwg
MathTrên Trwm
SustemRheilffyrdd Cenedlaethol
LleolCaerdydd
TerminiGorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
Gorsaf reilffordd Coryton
Gorsafoedd8
O ddydd i ddydd
PerchennogNetwork Rail
O ddydd i ddyddTrafnidiaeth Cymru
Technegol
Cul neu safonol?lled safonol

Mae'r llinell yn cael ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru fel rhan o rwydwaith y Cymoedd. Gwnaeth Trenau Arriva Cymru disodli masnachfraint Cwmni Reilffordd Cymru a'r Gororau ym mis Rhagfyr 2003 gyda masnachfraint Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn yn Hydref 2018. Y stoc sydd i'w gweld yn gweithio'r llinell fel arfer yw dosbarth 143 neu 142s. Fodd bynnag, o ganlyniad i brinder stoc mae dosbarth 150au a 158s yn cael eu defnyddio yn achlysurol.

Trydaneiddio

golygu

Ar 16 Gorffennaf 2012 cafodd cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd eu cyhoeddi gan Llywodraeth y DU fel rhan o becyn £9.4 biliwn o fuddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru a Lloegr.[1]

Roedd y gwaith i fod yn rhan o'r cynllun i ymestyn y gwaith o drydaneiddio'r Prif reilffordd De Cymru, o Gaerdydd i Abertawe ac i drydaneiddio rheilffyrdd cymoedd de Cymru  ar gyfanswm cost o £350 miliwn. Roedd disgwyl i'r gwaith dechrau rhwng 2014 a 2019[2], ond cafodd y dyddiad cychwynnol ei wthio yn ôl i rhwng 2019 a 2024.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "£9bn railway investment announced by coalition". BBC News. 16 July 2012.
  2. "Rail electrification to Swansea and south Wales valleys welcomed". BBC News. 16 July 2012.
  3. "Cardiff And Valleys Station Upgrades". Network Rail. 16 May 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-17. Cyrchwyd 2018-05-20.