Llofruddiaethau Llandarcy
Llofruddiaethau tair merch ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot ym 1973 oedd Llofruddiaethau Llandarcy. Llofruddiwyd Sandra Newton, Pauline Floyd a Geraldine Hughes ond ni ddarganfuwyd pwy oedd y llofrudd tan 29 mlynedd yn ddiweddarach, pan ddefnyddiwyd tystiolaeth fforensig DNA i ddatrys yr ymchwiliad.
Yn 2002, ar ôl derbyn caniatâd gan y llysoedd, dygwyd corff Joe Kappen o'r fynwent lle cafodd ei gladdu er mwyn cynnal profion fforensig arno. Canfuwyd mai ef oedd yn gyfrifol am farwolaethau'r dair ohonynt.
Cefndir yr achos
golyguYm Medi 1973, aeth Geraldine Hughes a'i ffrind gorau Pauline Floyd i glwb nos "Top Rank" ar Ffordd y Brenin, Abertawe. Er fod y ddwy yn byw saith milltir i ffwrdd, arferai'r clwb ddenu pobl o gryn bellter. Gweithiai'r ddwy mewn ffatri wnïo, gan ennill cyflog o £16 yr wythnos[1] Ar ddiwedd y noson, penderfynodd y ddwy fodio lifft adref. Gwelodd dyn a oedd yn gyrru heibio, Philip O'Connor, gar gwyn yn aros wrth ymyl y ddwy ferch er mwyn rhoi lifft iddynt. Ni chyrhaeddodd y ddwy pen eu taith.
Trannoeth, daeth pensiynwr o hyd i gorff Floyd mewn ardal goediog ger Llandarcy. Roedd hi wedi ei thagu gan raff pum troedfedd o hyd, ac roedd anafiadau difrifol i'w phen.[1] Daethpwyd o hyd i gorff Hughes 50 llath i ffwrdd yn agos i Heol Jersey Marine. Roedd ganddi anafiadau i'w phen ac roedd rhaff pum troedfedd wedi ei thagu hithau hefyd. Er fod y ddwy yn gwisgo dillad, dangosodd ymchwiliad post-mortem fod y ddwy wedi cael eu treisio.
Ymchwiliad yr heddlu
golyguCasglwyd ynghyd 150 o dditectifs er mwyn ymchwilio i'r llofruddiaethau, gan wneud yr achos hwn y mwyaf yn hanes Cymru ar y pryd. Arweiniwyd yr ymchwiliad gan y prif uwcharolygydd Ray Allen, a sefydlodd ystafell ymchwiliad yng Ngorsaf Heddlu Sgiwen.
Gan ddefnyddio tystiolaeth llygad-dystiion a oedd wedi gyrru heibio ar y noson, daeth yr heddlu i'r casgliad mai Austin 1100 gwyn oedd car y llofrudd. Dywedwyd fod y car wedi ei barcio wrth y fynedfa i'r goedwig rhwng 1.45 a 2.15 ar y bore Sul hwnnw.[1] Fodd bynnag, ni welodd unrhyw un rif y car.
Ar yr un pryd, gwelwyd cysylltiad posib i lofruddiaeth arall, sef marwolaeth Sandra Newton, merch 16 oed a fodiodd lifft adref ar ôl noson mewn clwb nos yn Llansawel. Dywedwyd ar y pryd fod car Austin 1100 wedi cael ei weld yn gyrru'n gyflym ar yr un noson.
Erbyn canol 1974 fodd bynnag, roedd yr achos wedi tawelu a lleihawyd y nifer o blismyn a oedd yn gweithio ar yr achos oherwydd prin oedd y dystiolaeth a oedd ar ôl a oedd heb ei archwilio. Trosglwyddwyd yr holl ddogfennau yn ymwneud a'r ymchwiliad i orsaf yr heddlu yn Sandfields, Port Talbot gan gynnwys dillad y merched. Cadwyd y dystiolaeth yno am bron i 30 mlynedd er i rai eitemau o bwysigrwydd arbennig fel dillad isaf y merched gael eu trosglwyddo i labordai gwyddoniaeth fforensig y Swyddfa Gartref yng Nghas-gwent.[1]
Yn 1998, datblygwyd prawf fforensig newydd sef y Rhif Copi DNA Newydd a fedrai ddefnyddio'r darn lleiaf o DNA yn unig er mwyn creu proffil ar gyfer y llofrudd. O ganlyniad i hyn, llwyddwyd i greu proffil DNA o lofrudd y merched. Serch hynny, nid oedd y dyn ar y Gronfa Ddata DNA Cenedlaethol.
Ar 16 Mai, 2002 dechrewyd ar y broses o agor bedd Joe Kappen o'r ddaear.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 The hunt for the Saturday Night Strangler The Guardian. Kevin Toolis. 18-01-2003. Adalwyd ar 06-06-2010