Llandarcy

pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pentref ger Castell-nedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llandarcy, lle ceir cyn-safle purfa olew cyntaf y DU. Saif y pentref ger cyffordd 43 yr M4. Cyllunwyd y pentref yn wreiddiol fel tref newydd i gartrefu gweithwyr y burfa a adeiladwyd gan gwmni BP rhwng 1918 ac 1922.[1]

Llandarcy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6403°N 3.8481°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[2].

Dewiswyd Llandarcy fel safle'r burfa olew oherwydd ei agosatrwydd i Borthladd Abertawe, i le cafodd olew crai ei gludo dros y môr o'r Dwyrain Canol. Cafodd y safle ei ddifrodi gan fomiau'r Luftwaffe ym 1940.[3] Ar ei bwynt uchaf, roedd y burfa'n gyflogwr o bwys yn ne-orllewin Cymru, gyda dros 2600 o weithwyr.[4] Ond, roedd hefyd yn gyfrifol am lygredd diwydiannol yng Nghors Crymlyn gerllaw, ardal a ddynodwyd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[5] Cafodd graddfa'r gweithgareddau ar y safleu eu lleihau'n raddol dros y blynyddoedd, a caewyd y safle ym 1998.[6]

Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew Anglo-Persian, rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd â chanolfan gymunedol a siop leol.

Roedd y pentref yn lleoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973, a elwir yn llofruddiaethau Llandarcy. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth DNA gan Heddlu De Cymru o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.[7]

Chwaraeon a hamdden

golygu

Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini ac iechyd newydd, gwesty a bwyty.[8] Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,[9] ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.[10]

Ail-ddatblygiad

golygu

Defnyddiwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.[11] Mae gweddill y tir diwydiannol lle lleolwyd y burfa hefyd yn cael ei ail-ddatblygu'n bentref newydd, sef Coed Darcy. Mae gan Ymddiriodolaeth y Tywysog ddiddordeb yn y cynllun, sy'n ceisio ei ddatblygu fel "Pentref Trefol", yn yr un modd a datblygwyd pentref Poundbury yn Dorset.[12]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Investor Site Visit: Brownfield renewal in the South West and Wales region. St. Modwen Properties PLC (1 Hydref 2007).
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  3.  Assessment and Restoration of the BP Llandarcy Refinery Landfill (25 Mai 2004).
  4.  Land Restoration / Llandarcy, Wales.
  5.  BTC General Oil Spill Response Plan: Appendix F, Potential Impacts of Oil Spillage to an Onshore Environment.
  6.  Progressive: The helios awards. BP.
  7.  The hunt for the Saturday Night Strangler. The Guardian (18 Ionawr 2003).
  8.  Press Release: Llandarcy Park Ltd. Neath Port Talbot County Borough Council (19 Chwefror 2001).
  9.  The Glamorgan Health & Racquets Club.
  10.  Llandarcy Academy of Sport.
  11.  Development of Sites and Premises. Neath Port Talbot County Borough Council.
  12. (Saesneg) Llandarcy Urban Village Project. The Civic Trust for Wales. Adalwyd ar 2007-12-23.

Dolenni allanol

golygu