Royal Charter
Roedd y Royal Charter yn llong hwylio stêm a ddrylliwyd ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre ar 26 Hydref 1859. Collwyd y rhestr o deithwyr yn y llongddrylliad, felly nid oes sicrwydd am yr union nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn uched â 459. Dyma'r llongddrylliad a laddodd fwyaf o bobl o bob un ar arfordir Cymru. Collwyd tua 200 o longau llai yn yr un storm.
Enghraifft o'r canlynol | agerlong |
---|---|
Cysylltir gyda | John Evans |
Hyd | 71.6 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adeiladwyd y Royal Charter yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Afon Dyfrdwy a lansiwyd hi yn 1857. Roedd yn fath newydd ar long, llong hwyliau ond gyda pheiriant ager y gellid ei ddefnyddio pan nad oedd gwynt. Defnyddid hi ar y fordaith o Lerpwl i Awstralia, ar gyfer teithwyr yn bennaf ond gyda rhywfaint o le i gargo. Roedd lle i tua 600 o deithwyr. Ystyrid hi yn llong gyflym iawn; gallai wneud y daith i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod.
Llongddrylliad
golyguDdiwedd Hydref 1859 roedd y Royal Charter yn dychwelyd i Lerpwl o Melbourne. Roedd arni tua 371 o deithwyr gyda chriw o tua 112 a rhai pobl eraill oedd yn gweithio i’r cwmni. Roedd llawer o’r teithwyr yn dychwelyd o’r cloddfeydd aur yn Awstralia, a llawer ohonynt yn dod ag aur yn ôl gyda hwy. Roedd llawer o aur hefyd yn cael ei gario fel cargo. Wrth i’r llong gyrraedd arfordir gogledd-orllewin Môn roedd y gwynt yn dechrau codi.
Ceisiodd y Royal Charter godi’r peilot ar gyfer Lerpwl pan oedd gyferbyn â Phwynt Lynas, ond erbyn hyn roedd y gwynt wedi codi i raddfa 10 ar raddfa Beaufort a’r môr yn rhy arw iddi gyfarfod y peilot. Yn ystod noson 25/26 Hydref cododd y gwynt i raddfa 12. Hon oedd Storm y Royal Charter, a achosodd ddifrod enbyd. Ar y cychwyn roedd y gwynt yn chwythu o’r dwyrain, ond yna newidiodd ei gyfeiriad i’r gogledd-ddwyrain ac yna tua’r gogledd, gan yrru’r llong tuag at arfordir dwyreiniol Môn. Am 11 o’r gloch y noson honno gollyngwyd yr angor, ond am hanner awr wedi un ar fore’r 26ain torrodd un o’r ceblau oedd yn ei ddal, yna awr yn ddiweddarach torrodd y llall. Gyrrwyd y Royal Charter tua’r lan, gyda’r peiriant ager yn methu gwneud dim yn erbyn y storm. Ceisiwyd torri’r mastiau i leihau pwysau’r gwynt ar y llong, ond fe yrrwyd y llong ar fanc tywod ger Moelfre. Yn gynnar ar fore’r 26 Hydref, wrth i’r llanw godi, gyrrwyd hi yn erbyn y creigiau rhwng Moelfre a Thraeth Llugwy. Gyda’r gwynt yn ei hyrddio yn erbyn y creigiau, drylliwyd y llong yn ddarnau.
Gallodd un aelod o’r criw, Joseph Rogers, nofio i’r lan gyda rhaff, a defnyddiwyd hon i achub ychydig o bobl, a gallodd ychydig rhagor nofio i’r lan. Bu farw dros 450 o bobl, rhai wedi boddi ond y rhan fwyaf wedi eu lladd trwy gael eu hyrddio yn erbyn y creigiau gan y tonnau enfawr. Achubwyd 21 o deithwyr ac 18 o’r criw, pob un yn ddynion. Ni achubwyd yr un ferch na phlentyn. Ymysg yr aelodau o’r criw a fu farw roedd bachgen oedd yn frodor o bentref Moelfre ei hun, Isaac Lewis.
Dywedir fod llawer o aur wedi ei olchi i’r lan yn y dyddiau nesaf, ac i rai teuluoedd ym Moelfre ddod yn gefnog dros nos. Roedd yswiriant o £322,000 ar yr aur yn y cargo, ond roedd y teithwyr yn cario llawr yn ychwaneg. Cafwyd hyd i ynnau, sbectol, ac aur gan blymwyr tanfor dros y blynyddoedd.[1] Defnyddir darganfyddwyr metel tanddwr a pheiriannau eraill yn eitha diweddar (2013).[2]
Claddwyd y rhan fwyaf o’r cyrff ym mynwent Llanallgo gerllaw, lle gellir gweld beddau a chofeb iddynt. Mae hefyd gofeb ger y traeth uwchben y creigiau lle drylliwyd y llong, ger Llwybr Arfordirol Ynys Môn.
Bu rheithor Llanallgo, Stephen Roose Hughes yn eithriadol o brysur yn ceisio rhoi enwau ar y cyrff drylliedig a chysuro’r teuluoedd, ac mae’n debyg i’w ymdrechion arwain at ei farwolaeth ef ei hun yn fuan wedyn. Ymwelodd Charles Dickens ag ef yn fuan ar ôl y llongddrylliad, ac mae’r hanes yn ei gyfrol The Uncommercial Traveller.
Bron union ganrif yn ddiweddarach yn Hydref 1959 drylliwyd llong arall, yr Hindlea, ar yr un creigiau mewn storm arall. Y tro hwn roedd y canlyniad yn wahanol: achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.
Mewn pennod o'r rhaglen deledu Who Do You Think You Are? gan y BBC, gwnaeth y garddwr Monty Don ddarganfod y bu farw un o'i deulu, Charles Hodge, yn llongddrylliad y Royal Charter.
Llyfryddiaeth
golygu- Charles Dickens, The Uncommercial Traveller (1860–61)
- T. Llew Jones, Ofnadwy Nos (Llandysul: Gwasg Gomer, 1971)
- Alexander McKee, The Golden Wreck: The Tragedy of the 'Royal Charter' (Souvenir Press, 1986)
Cerddoriaeth
golyguRecordiwyd cân am y drychineb, ”Isaac Lewis” gan Tom Russell, canwr gwerin o’r Unol Daleithiau; recordiwyd yr un gân gan William Pint a Felicia Dale, canwyr gwerin o Seattle, Talaith Washington.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Holden, Chris (2008). Underwater Guide to North Wales Cyfrol. 2. Calgo Publications. tt. 142–143. ISBN 978-0-9545066-1-2.
- ↑ Julian Todd. "North Wales Kayak – Summer 2004/5". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-26. Cyrchwyd 2013-04-04.