Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh

Perchennog ystâd Castell Gwrych, ger Abergele ac Uchel Siryf Sir Ddinbych[1] yn 1828 oedd Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (17881861).[2]

Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh
Ganwyd9 Awst 1788 Edit this on Wikidata
Bu farw1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
PriodLady Emily Lygon Edit this on Wikidata
PlantCatherine Randolph Edit this on Wikidata
Rhan o dyrau Castell Gwrych

Gellir olrhain Llwydiaid Castell Gwrych yn ôl i David Lloyd, Plas yn Gwrych yn 1608, ond Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh yw'r enwocaf o'r teulu, mae'n debyg. Ei dad oedd Robert Bamford-Hesketh o Bamford Hall ac Upton a'i fam oedd Frances Lloyd (priododd y ddau yn 1787). Yr un enw oedd i'w daid hefyd (Robert), sef etifedd ystâd Bamford. Codwyd Castell Gwrych gan Lloyd fel cartref priodasol, a cheir tystiolaeth pendant fod y Castell wedi'i orffen erbyn iddo briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch hynaf Iarll Cyntaf Beauchamp) yn 1825. Fe'i cododd hefyd fel teyrnged i Lwydiaid ochr ei fam.

Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystâd 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng Ngogledd Cymru.

Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Gofrestr Blynyddol 1828, cyfrol 70, tud 192 gan Edmund Burke
  2. www.archiveswales.org.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Rhagfyr 2014