Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn)
eisteddfodwr, diddanwr ac amaethwr
(Ailgyfeiriad o Llwyd o'r Bryn)
Awdur Cymraeg, beirniad ac eisteddfodwr brwd oedd Robert Lloyd, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Llwyd o'r Bryn (29 Chwefror 1888 – 28 Rhagfyr 1961). Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddisgrifiadau ac atgofion o'i fro enedigol a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.
Robert Lloyd | |
---|---|
Ffugenw | Llwyd o'r Bryn ![]() |
Ganwyd | 29 Chwefror 1888 ![]() Llandderfel ![]() |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1961 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/1/17/Adlodd_Llwyd_o%27r_Bryn_%28llyfr%29.jpg/130px-Adlodd_Llwyd_o%27r_Bryn_%28llyfr%29.jpg)
Ganed Llwyd o'r Bryn ar fferm ei rieni rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel, ger Y Bala, Meirionnydd, yn 1888. Gweithiodd ar fferm ei dad a daeth ei brofiad o fyd amaeth a diwylliant anghydffurfiol y fro yn ddylanwad mawr arno. Bathodd y term 'Y Pethe', teitl ei gyfrol enwog, i gynrychioli'r traddodiad gwerinol Cymraeg diwylliedig a'i werthoedd gorau.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Pethe (1955)
- Diddordebau Llwyd o'r Bryn (1967). Casgliad o'i lythyrau hunangofiannol, golygwyd gan Trebor Lloyd Evans
- Adlodd Llwyd o'r Bryn (1983). Golygwyd gan ei ferch Dwysan Rowlands.