Cefnddwysarn

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, yw Cefnddwysarn[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Cefn-ddwysarn).[2] Saif yn ardal Meirionnydd tua tri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Sarnau ar briffordd yr A494 a rhyw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala.

Cefnddwysarn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.934°N 3.54°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH965385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Enwogion y fro

golygu

Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.

Yno yn 1859 ar fferm y Cynlas y ganwyd Thomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'r Rhyddfrydwyr a mudiad Cymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw gan Lloyd George yn 1910.

Er iddo gael ei eni yn Llanfor, treuliodd y bardd David Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884) y rhan helaeth o'i oes yng Nghefnddwysarn. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Bu'r bardd Robert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y 1910au cynnar.

Un o enwogion eraill y fro yw Llwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel yn 1888. Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.

O ardal y Sarnau y daw'r ddau frawd, y prifeirdd Gerallt Lloyd Owen a Geraint Lloyd Owen. Mae rhai o gerddi gorau Gerallt yn ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro. Geraint oedd Archdderwydd Cymru o 2016 i 2018 dan yr enw barddol Geraint Llifon.

Darllen pellach

golygu
  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
  • Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU