Trebor Lloyd Evans
gweinidog (Annibynwyr) ac awdur
Awdur Cymraeg ar bynciau diwinyddol a Christnogol yn bennaf oedd Trebor Lloyd Evans (1909 - 1979). Roedd yn frodor o ardal Penllyn.
Trebor Lloyd Evans | |
---|---|
Ganwyd | 5 Chwefror 1909 y Bala |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Ganed Trebor Lloyd Evans ger Y Bala ym 1909. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Bala-Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru. Daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr ym Mhen-y-groes, Arfon ac yna yn Nhreforus, Morgannwg.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar bynciau Cristnogol. Yn ogystal golygodd y gyfrol Diddordebau Llwyd o'r Bryn. Cyfieithodd Taith y Pererin gan John Bunyan i'r Gymraeg a detholiad o ddyddiaduron Francis Kilvert.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Cymeriadau'r Beibl (2 gyfrol, 1955 a 1958)
- Gwerth Gristnogol yr Iaith Gymraeg (1967)
- Diddordebau Llwyd o'r Bryn (1966)