Y Pethe
Mae'r term "y Pethe" yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r diwylliant Cymraeg, yn enwedig y diwylliant gwerin traddodiadol, gan gynnwys barddoniaeth a chynganeddu, cerdd dant a chanu gwerin, a byd y capel a'r eisteddfod. Mae'r enw'n deillio o lyfr gan Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955), oedd yn disgrifio ac yn hel atgofion am ddiwylliant a bywyd ei fro enedigol yn Sir Feirionnydd.
Mae'r gair i'w weld mewn ymadroddion fel "byd y Pethe" a "phobol y Pethe" ynghyd ag enw siop lyfrau yn Aberystwyth, Siop y Pethe. Weithiau, defnyddir y term yn ddilornus i ddisgrifio pethau yn y diwylliant Cymraeg y mae rhai'n eu gweld yn hen ffasiwn neu'n geidwadol.
Gweler hefyd
golygu- Y Pethe gan Llwyd o'r Bryn