Llwyfwyfyn canibalaidd
Cosmia trapezina | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Cosmia |
Rhywogaeth: | C. trapezina |
Enw deuenwol | |
Cosmia trapezina (Linnaeus, 10fed Rhifyn o Systema Naturae, 1758) |
Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw llwyfwyfyn canibalaidd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llwyfwyfynod canibalaidd; yr enw Saesneg yw Dun-bar, a'r enw gwyddonol yw Cosmia trapezina.[1][2] Mae'n eitha cyffredin drwy Ewrop.
Lled yr adenydd ydy 28–38 mm a gall y lliw (a'r maint) newid cryn dipyn. Mae'n hedfan rhwng Gorffennaf a Medi ac yn cael ei ddenu gan olau a siwgwr.
Bwyd
golyguMae'r siani flewog yn wyrdd gyda llinellau melyn a smotiau gwynion. Ei phrif fwyd ydy coed a llysiau ond mae hefyd yn gloddesta ar gnawd siani flewogs eraill, ac weithiau ar siani flewogs ei math ei hun - y llwyfwyfyn canibalaidd; a dyna sut y cafodd ei henw. Mae'n trulio'r gaeaf fel ŵy.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r llwyfwyfyn canibalaidd yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.