Drama Gymraeg gan Dafydd James ydy Llwyth a berfformiwyd yn wreiddiol gan gwmni theatr Sherman Cymru yn 2010. Mabwysiadwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn dilyn penodiad Arwel Gruffydd fel arweinyddydd artistig, ac ail-deithwyd y cynhyrchiad drwy Gymru, ac i'r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin.[1] Cafwyd dilyniant i'r ddrama yn 2022 gyda'r cynhyrchiad Tylwyth, eto gan Dafydd James.[2]

Llwyth
Cymru
Math o gyfrwngdrama lwyfan
AwdurDafydd James
CyhoeddwrSherman Cymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi2011
Cysylltir gydaTheatr Genedlaethol Cymru
Argaeleddmewn print
Poster swyddogol y ddrama
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Disgrifiad byr

golygu

Adrodda hanes bedwar ffrind hoyw o Gaerdydd ar noson gêm rygbi rhyngwladol. Disgrifiodd Arwel Gruffydd y ddrama sydd fel Sex and the City a Queer as Folk, gydag ychydig o Braveheart ynddo hefyd.[3] Cyhoeddwyd y ddrama gan Gwasg Cambrian, Aberystwyth gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

"Seren y sioe - yn ei feddwl ei hun - yw Aneurin [...] awdur yn Llundain sy di cefnu ar ei deulu a Chymru fach," yn ôl Lowri Haf Cooke. "Mae e'n breuddwydio am gipio gwobr Booker am ei ddiweddariad o'r Gododdin, ac yn ymhyfrydu yn ei orchestion rhywiol gyda dieithriaid y ddinas fawr ddrwg", ychwanegodd mewn adolygiad o'r ddrama.[4]

"Ond ar ôl mentro adre ar y Megabus, caiff groeso mawr gan ei lwyth yng Nghaerdydd; yn eu plith, Rhys,[...] athro mathemateg a chyfaill bore oes; Gareth, [...] cariad di-Gymraeg Rhys sydd yn gweithio mewn gym - a Dada annwyl, [...] dyn hŷn sy'n fam iddynt oll. Wrth inni ddilyn eu noson, o snortio coke o flaen Strictly yn fflat smart Dada i ochr-gamu chwaraewyr rygbi a chyn-gariadon yng nghlybiau canol y ddinas, daw'n amlwg bod tensiynau mawr yn llechu yn y cysgodion, a phan ddaw cyn-ddisgybl Rhys, Gavin [...] i ymuno â'r criw, buan iawn y dont oll i'r wyneb."[4]

"Cryfder gwaith Dafydd, yw gogoniant y cynhyrchiad;" yn ôl yr adolygydd Paul Griffiths yn Y Cymro, "yr onestrwydd unigryw am fod yn hoyw yn y Gymru sydd ohoni, a’r cyfan mewn iaith mae Dafydd yn gwbl gyfarwydd ag ef. Mae yma astudiaeth sensitif o berthynas sawl cenhedlaeth, a’i effaith ar y teulu", ychwanegodd.[5]

"Ond yr hyn sy’n gosod y ddrama uwchlaw trybini’r teulu, y cyffuriau a’r caru, yw naratif Aneurin sy’n adrodd y stori wrth wibio i lawr Burghley Road, Llundain; naratif sy’n swyno’r gynulleidfa o’r cychwyn cyntaf, ac yn ein dwyn i mewn i’r stori dwymgalon hon. “Haul braf a’i nwyd yn cydio. Vest-tops cynta’r gwanwyn, bechgyn yn prancio a Dynion. Llwyth o ddynion, llwyth o gyhyrau; cnawd ar gerdded, tra bo fi ar feic ar frys yn chwys diferol.”[5]

Cefndir

golygu

Seilwyd y ddrama ar hanes Y Gododdin, gyda'r dramodydd yn cymharu'r llwyth cyntefig o ryfelwyr gyda'r Llwyth presennol o fechgyn hoyw yng Nghaerdydd. Nododd Paul Griffiths fod y sgript yn "gyfoethog o gyfeiriadaeth lenyddol o’r Gododdin i Iolo Morgannwg".[5] Datblygwyd y ddrama wreiddiol gan Sherman Cymru, cyn cael ei drosglwyddo i'r Theatr Genedlaethol.

Cymeriadau

golygu
  • Aneurin
  • Tada (tad Aneurin)
  • Rhys
  • Gareth
  • Gavin

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Sherman Cymru yn 2010. Cyfarwyddwyr Arwel Gruffydd,[6] cast:

Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau cadarnhaol iawn gan y Wasg Gymreig a'r wasg yn Lloegr. Dywedodd Nathan Williams yn The Guardian am bob moment sentimental yn y ddrama

"...there's a joke waiting in the wings that creases up the audience and breaks the tension. It's a very funny play, but it's also a very self-conscious one, aware that it is at times walking a tightrope between perspicacity and banality. It has that rare quality of looking and feeling as if it's been painstakingly drafted and re-drafted, combed over again and again, until every reference, every idiom, every detail, is just so."[7]

Credai nifer o'r beirniaid fod y ddrama hefyd yn arloesol am ei bod yn delio â materion dadleuol cyfoes mewn modd diflewyn ar dafod. Dywedodd Gwyn Griffiths yn ei adolygiad ar gyfer BBC Cymru "Fedra i ddim cofio gweld drama lwyfan gyda deialog mor rhwydd a doniol, clyfar, hanner Cymraeg a hanner Saesneg, eto'n asio'n gyfanwaith cyfoethog." Dywed hefyd ei fod yn "Hyfryd gweld cast mor arbennig o gryf, pob un yn ardderchog" [8] Ategwyd hyn gan Jamie Rees o wefan Buzzmag.com pan ddywed "Once in a while a piece of theatre comes along that changes the artistic landscape of the country that produced it, taking the genre to a whole new level."

Disgrifiodd Catrin Rogers ar wefan Tu Chwith fod y "script, y cyflymder, datblygiad pob un cymeriad a safon yr actio yn gwneud hon yn un o’r dramau mwyaf crefftus, difyr, dwys – a hir-ddisgwyliedig – yn hanes theatr Cymru dros y ganrif ddwytha."[9]

Yn ôl Paul Griffiths yn Y Cymro, gyda chyrhaeddiad Dafydd James, "fod yma lais newydd, gonest, ffres a phwysig ar gyfer y Theatr Gymraeg"[5]

Ail lwyfannwyd y ddrama yn 2011, gan fynd â'r cynhyrchiad ar daith i Lundain ac i'r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin.

Un fu'n ymweld â'r Ŵyl yng Nghaeredin, oedd yr adolygydd Lowri Haf Cooke: "Ar gyfer llwyfaniad Llwyth yn Eglwys St George's West, bu'n rhaid addasu'r ddrama rhyw fymryn, a gwnaethpwyd yn fawr o'r cysylltiadau â Chaeredin, gan gynnwys ei chyfeiriadau di-ri at Hen Ogledd y Gododdin a thaith côr Rhys i'r Ŵyl. [...] Rhoddwyd hefyd le canolog i'r uwch-deitlau Saesneg ac o brofi'r bonllef o gymeradwyaeth a bochau gwlyb y gynulleidfa ddi-Gymraeg, teg dweud iddynt lwyddo'n rhagorol i gyfleu geiriau sy'n gwyro rhwng  Wenglish hamddenol a barddoniaeth gain mewn Cymraeg coeth."[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Sherman Cymru Archifwyd 2010-08-10 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 16-07-2011
  2. "Tylwyth". theatr.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-11.
  3. Theatre Preview: Part of the tribe. Wales Online. Karen Price. 09-04-2010. Adalwyd ar 09-05-2010
  4. 4.0 4.1 4.2 "BBC - Llwyth - 2011". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-11.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Gwefan Adolygiadau Y Cymro - http://paulpesda.blogspot.com/2010/04/llwyth.html
  6. Llwyth begins new Chapter for Sherman Cymru Laura Chamberlain. BBC Wales Arts. 13-04-2010. Adalwyd ar 09-05-2010
  7. Williams, Nathan (2010-04-21). "Sherman Cymru: Llwyth (Tribe)". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-09-11.
  8. Llwyth (Tribe) - adolygiad Gwefan BBC - Cymru - Cylchgrawn. Adalwyd ar 09-05-2010
  9. Catrin Rogers sy’n adolygu cynhyrchiad newydd Sherman Cymru. Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Catrin Rogers. Tuchwith.com 26-04-2010. Adalwyd ar 09-05-2010