Llyfr y Tri Aderyn
Llyfr y Tri Aderyn yw teitl poblogaidd llyfr mwyaf dylanwadol Morgan Llwyd o Wynedd (1619-1659). Cafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1653. Fe'i ystyrir yn un o glasuron mawr llenyddiaeth Gymraeg.
Llyfr y Tri Aderyn |
---|
Y teitl llawn yw:
DIRGELWCH i rai iw DDEALL ac i eraill iw WATWAR, sef tri aderyn yn ymddiddan [:] yr ERYR, a'r GOLOMEN a'r GIGFRAN. Neu ARWYDD I ANNERCH Y CYMRU. Yn y flwyddyn mil a chwechant a thair ar ddec a deugain, CYN DYFOD 666.
Mae'r "666" yn bwysig. Nôd y Diafol ydyw ac roedd Morgan Llwyd a nifer eraill o'r Piwritaniaid yn credu fod diwedd y byd a dechrau ail-deyrnasiad Crist wrth law. Roedd yr awdur yn weithgar yn Mhlaid y Bumed Brenhiniaeth, a gredai fod Crist am ddychwelyd i'r ddaear i fod yn Frenin arni, ac mae ôl syniadau gwleidyddol y blaid honno i'w gweld yn ei waith.
Llyfr alegorïol iawn sydd â sawl haen o ystyr yw Llyfr y Tri Aderyn. Mae ar ffurf ymddiddan rhwng tri aderyn, yr Eryr, y Gigfran a'r Golomen. Yr ystyr amlycaf i'r tri aderyn hyn yw bod yr Eryr yn cynrychioli'r Wladwriaeth ym mherson Oliver Cromwell, y Gigfran yr Eglwys sefydledig a'r Golomen y Piwritaniaid. Ar y lefel yma mae'r llyfr yn ymwneud â gwleidyddiaeth y dydd a'r berthynas rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth.
Ond ceir ystyr dyfnach yn ogystal. Daeth Morgan Llwyd dan ddylanwad y cyfrinydd Lutheraidd Jakob Böhme. Yn ei lyfr Mercurius Teutonicus (a gyhoeddwyd yn Saesneg yn 1648), ceir y Golomen a'r Gigfran, lle mae'r Gigfran yn cynrychioli y dyn daearol, bydol, a'r Golomen yn cynrychioli "plant Duw". Ond mae'n dweud hefyd fod y Gigfran yn sefyll am "Ddeddf lym" Moses tra bod y Golomen yn sefyll am Efengyl Crist yn ei phurdeb.
Gellir gweld haen arall, llawer mwy Cymreig a thraddodiadol yn y gwaith, sef y defnydd hynafol o anifeiliaid o bob math yn y canu darogan Cymraeg. Felly mae'r Eryr yn holi'r Gigfran am newyddion am y Tyrciaid, Sbaen, helynt Ffrainc a'r Pab, ymhlith pethau eraill. Rhydd hyn y cyfle i ddehongli digwyddiadau fel arwyddion o gyflawni'r proffwydoliaethau am Ail Deyrnasiad Crist.
Mae arddull Morgan Llwyd yn naturiol a chyfoethog, yn arbennig o ran delweddaeth a rhythm. Mae'n llwyddo i greu cymeriadau gyda phersonoliaethau credadwy (o fewn ffiniau'r gwaith) i'r Tri Aderyn ei hunain ac mae hyn yn ychwanegu at werth y llyfr.
Llyfryddiaeth
golyguTestun
golyguCeir golygiad safonol o Llyfr y Tri Aderyn yn:
- T.E. Ellis a J.H. Davis (gol.), Gwaith Morgan Llwyd (1899, 1908)
Cefndir
golygu- W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926)
- E. Lewis Evans, 'Morgan Llwyd', yn Y Traddodiad Rhyddiaith (1970)
- M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (Cyfres Writers of Wales, 1984)