Llyfrgell Alexandria
Llyfrgell Frenhinol Alexandria neu Lyfrgell Hynafol Alexandria yn Alexandria, yr Aifft, oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol yr hen fyd. Roedd wedi'i hadeiladu i'r Awenau, naw duwies y celfyddydau. Ffynnodd o dan nawdd y frenhinlin Ptolemaidd a daeth yn brif ganolfan i ddysgeidiaeth o'i hadeiladu yn y 3g CC hyd nes i'r Rhufeiniaid goncro'r Aifft yn 30CC. Yn ogystal â'i chasgliadau o weithiau, roedd ganddi ddarlithfeydd, ystafelloedd cyfarfod a gerddi. Roedd y Llyfrgell yn rhan o sefydliad ymchwil mwy o'r enw Musaeum Alexandria, ble astudiodd nifer o feddylwyr enwocaf yr hen fyd.
Math | llyfrgell ymchwil |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Musaeum |
Lleoliad | Alexandria |
Sir | Alexandria |
Gwlad | Ægyptus |
Cyfesurynnau | 31.21°N 29.91°E |
Cysegrwyd i | Muse |
Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemi I Soter, cadfridog o Facedonia ac olynydd Alecsander Fawr. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau papyrus. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.
Mae'n debyg mai hyn sy'n gwneud y llyfrgell hon yn adnabyddus yw'r ffaith iddi gael ei llosgi'n ulw gan arwain at golli nifer fawr o'r sgroliau a llyfrau; mae ei dinistrio wedi dod yn symbol o golli gwybodaeth ddiwylliannol. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd y Llyfrgell ei llosgi na phwy a wnaeth, ac mae'n bosib bod y Llyfrgell wedi wynebu sawl tân dros lawer o flynyddoedd.
Strwythur
golyguNi wyddus union osodiad yr adeilad, ond ceir hen ddogfennau sy'n nodi fod yma gasgliadau o sgroliau, colofnau Groegaidd, peripatos, ystafell fwyta, ystafell ddarllen, ystafell gyfarfod a neuaddau darlithio. Roedd strwythur yr adeilad, o ran ei bensaerniaeth, felly, yn rhagflaenu prifysgolion. Gwyddom hefyd fod yma ystafell bwrcasu ac ystafell i gatalogio'r gweithiau a bod yma silffoedd a oedd yn dal casgliadau o sgroliau brwynbapur a elwid yn βιβλιοθῆκαι ('bibliotecai'). Uwch ben y silffoedd, ysgrifennwyd mewn llythrennau mawr: 'Yn y fan hon ceir gwellâd yr enaid'.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Manguel, Alberto, The Library at Night. New Haven: Yale University Press, 2008, t. 26.