Llygredd yn y môr

Mae llygredd morol yn digwydd pan fydd sylweddau a ddefnyddir neu a ledaenir gan bobl, megis gwastraff diwydiannol,amaethyddol a phreswyl, sŵn, gormodedd o garbon deuocsid neu organebau ymledol yn mynd mewn gefnfor ac yn achosi effeithiau niweidiol yno. Daw mwyafrif y gwastraff hwn (80%) o weithgarwch ar y tir,[1] naill ai drwy'r afonydd, drwy garthffosiaeth neu'r atmosffer. Golyga hyn bod silffoedd cyfandirol yn fwy agored i lygredd. Mae llygredd aer hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu trwy gludo haearn, asid carbonig, nitrogen, silicon, sylffwr, plaladdwyr neu ronynnau llwch i'r cefnfor.[2]

Llygredd yn y môr
Enghraifft o'r canlynoltype of pollution Edit this on Wikidata
Mathllygredd, Llygredd dŵr Edit this on Wikidata
Lleoliadcefnfor Edit this on Wikidata

Daw'r llygredd yn aml o ffynonellau di-bwynt fel dŵr ffo amaethyddol, malurion a chwythir gan y gwynt, a llwch. Mae'r ffynonellau di-bwynt hyn yn bennaf oherwydd dŵr ffo sy'n llio i'r cefnforoedd trwy afonydd, ond gall malurion a llwch a chwythir gan y gwynt chwarae rhan hefyd, oherwydd gall y llygryddion hyn setlo i welyau dyfrffyrdd a chefnforoedd.[3] Mae llwybrau llygredd yn cynnwys arllwysiad uniongyrchol, dŵr ffo tir, llygredd llongau, llygredd atmosfferig ac, o bosibl, mwyngloddio twfn.

Gellir grwpio'r mathau o lygredd morol fel llygredd o falurion morol, llygredd plastig, gan gynnwys microblastigau, asideiddio cefnforol, llygredd maetholion, tocsinau a sŵn tanddwr. Mae llygredd plastig yn y cefnfor yn fath o lygredd morol gan blastigau, sy'n amrywio o ran maint o ddeunydd gwreiddiol mawr fel poteli a bagiau, i lawr i ficroblastigau a ffurfiwyd drwy ddarnio deunydd plastig. Mae malurion morol yn bennaf yn sbwriel dynol sy'n cael ei daflu ac sy'n llygru'r cefnfor. Mae llygredd plastig yn niweidiol i fywyd morol, ac i bobl.

Er y gall llygredd morol fod yn amlwg, fel gyda'r malurion morol a ddangosir uchod, yn aml y llygryddion na ellir eu gweld sy'n achosi'r niwed mwyaf.

Mae sawl ffordd o gategoreiddio ac archwilio'r llygredd a sut y daw i fewn i'r ecosystemau morol. Ceir tri phrif o fewnbwn llygredd i'r cefnfor: gollwng gwastraff yn uniongyrchol i'r cefnforoedd, dŵr ffo oherwydd glaw, a llygryddion sy'n cael eu rhyddhau o'r atmosffer.[4]

Rhyddhau uniongyrchol

golygu
Draeniad mwynglawdd asid yn Afon Rio Tinto

Mae llygryddion yn mynd i mewn i afonydd a'r môr yn uniongyrchol o garthffosiaeth drefol a gollyngiadau gwastraff diwydiannol, weithiau ar ffurf gwastraff peryglus a gwenwynig, neu ar ffurf plastigau.

Mae astudiaeth a gyhoeddwyd gan Science, Jambeck et al. (2015) yn amcangyfrif mai'r 10 allyrydd mwyaf o lygredd plastig cefnforol ledled y byd yw, o'r mwyaf i'r lleiaf, Tsieina, Indonesia, Philippines, Fietnam, Sri Lanka, Gwlad Thai, yr Aifft, Malaysia, Nigeria a Bangladesh.[5]

Dŵr ffo tir

golygu

Gall dŵr ffo arwyneb ddeillio'n aml o ffermio diog, yn ogystal â dŵr ffo trefol a dŵr ffo o adeiladu ffyrdd, adeiladau, porthladdoedd, sianeli, a harbyrau, cludo pridd ac oronynnau'n llawn carbon, nitrogen, ffosfforws a mwynau. Gall y dŵr llawn maetholion yma achosi i algâu niweidiol a ffytoplanctonau ffynnu mewn ardaloedd arfordirol; a elwir yn flodau algaidd, sydd â'r potensial i greu amodau hypocsig trwy ddefnyddio'r holl ocsigen sydd ar gael. Ar arfordir de-orllewin Florida, mae blodau algaidd niweidiol wedi bodoli ers dros 100 mlynedd.[6] Mae'r blodau algaidd hyn wedi achosi i rywogaethau o bysgod, crwbanod, dolffiniaid a berdys farw ac achosi effeithiau niweidiol ar bobl sy'n nofio yn y dŵr.[6]

Llygredd llongau

golygu
Mae llong cargo yn pwmpio dŵr balast dros yr ochr

Gall llongau lygru dyfrffyrdd a chefnforoedd mewn sawl ffordd: gollyngiadau olew yw'r math gwaethaf. Yn ogystal â bod yn wenwynig i fywyd morol, mae hydrocarbonau aromatig polysyclig (PAHs), a geir mewn olew crai, yn anodd iawn eu glanhau, ac yn para am flynyddoedd yn yr amgylchedd gwaddod a morol.[7][8]

Mae'n debyg mai gollyngiadau olew yw'r digwyddiadau llygredd morol sy'n cael y mwyaf o sylw. Fodd bynnag, er y gall llongddrylliad tancer arwain at benawdau papur newydd helaeth, daw llawer o'r olew ym moroedd y byd o ffynonellau llai eraill, megis tanceri'n gollwng dŵr balast o danciau olew, piblinellau'n gollwng neu olew injan a waredir i lawr carthffosydd.


Yn 2022 newidiwyd un o gyfreithiau Llywodraeth Lloegr, fel ag i ganiatau gollwng carffosiaeth dynol allan o bibellau ac yn syth i'r afonydd neu'r môr. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/welsh-tory-mps-who-voted-21965456

Gall gollwng gweddillion cargo o longau lygru porthladdoedd, dyfrffyrdd a chefnforoedd. Mewn llawer o achosion mae cychod yn gollwng gwastraff anghyfreithlon yn fwriadol er bod rheoliadau tramor a domestig yn gwahardd gweithredoedd o'r fath. Mae diffyg safonau cenedlaethol yn gymhelliant i rai llongau mordeithio adael gwastraff mewn mannau lle mae'r cosbau'n annigonol.[9] Amcangyfrifwyd bod llongau eraill yn colli dros 10,000 o gynwysyddion ar y môr bob blwyddyn (yn ystod stormydd fel arfer).[10] Mae llongau hefyd yn creu llygredd sŵn sy'n tarfu ar fywyd gwyllt naturiol, a gall dŵr o danciau balast ledaenu algâu niweidiol a rhywogaethau ymledol eraill.[11]

Llygredd atmosfferig

golygu

Llwybr arall i lygredd yw trwy'r atmosffer. Mae'r cefnforoedd wedi'i effeithio ers cryn amser, gan symudiad cemegau o'r atmosffer (ee ffynhonnell maetholion; dylanwad pH).[12] Mae llwch a malurion sy'n cael eu chwythu gan y gwynt, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael eu chwythu tua'r môr o safleoedd tirlenwi ac ardaloedd eraill. Chwythir llwch o'r Sahara o amgylch cyrion deheuol y gefnen isdrofannol gan symud i'r Caribî a Fflorida yn ystod y tymor cynnes. Gellir priodoli llwch hefyd i gludiant byd-eang o anialwch Gobi a Taklamakan ar draws Corea, Japan, a'r Môr Tawel Gogleddol i'r Ynysoedd Hawai.[13]

Mae newid hinsawdd yn codi tymheredd y cefnforoedd ac yn codi lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Mae'r lefelau cynyddol hyn o garbon deuocsid yn asideiddio'r cefnforoedd,[14] gan newid ecosystemau dyfrol. Mae ecosystemau cefnfor iach hefyd yn bwysig ar gyfer lliniaru newid hinsawdd.

Mwyngloddio môr dwfn

golygu

Mae mwyngloddio môr dwfn yn niweidio'r amgylchedd, ond gan ei fod yn faes eitha newydd, ychydig a wyddom am ei effaith ar yr amgylchedd. Ymhlith y metelau gwenwynig posibl mae: copr, sinc, cadmiwm, plwm ac elfennau prin fel lanthanwm ac yttriwm.[15] Yn dilyn rhyddhau tocsinau gwelir cynnydd mewn sŵn, golau, gwaddodion ac elfennau sydd â'r potensial i effeithio ar yr ecosystemau.[16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Charles Sheppard, gol. (2019). World seas : an Environmental Evaluation. III, Ecological Issues and Environmental Impacts (arg. Second). London. ISBN 978-0128052044. OCLC 1052566532.
  2. Duce, Robert, Galloway, J. and Liss, P. (2009). "The Impacts of Atmospheric Deposition to the Ocean on Marine Ecosystems and Climate WMO Bulletin Vol 58 (1)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd September 22, 2020.
  3. "What is the biggest source of pollution in the ocean?". National Ocean Service (US). Silver Spring, MD: National Oceanic and Atmospheric Administration. Cyrchwyd 2022-09-21.
  4. Patin, S.A. "Anthropogenic impact in the sea and marine pollution". offshore-environment.com. Cyrchwyd 1 February 2018.
  5. Jambeck, J. R.; Geyer, R.; Wilcox, C.; Siegler, T. R.; Perryman, M.; Andrady, A.; Narayan, R.; Law, K. L. (12 February 2015). "Plastic waste inputs from land into the ocean". Science 347 (6223): 768–771. Bibcode 2015Sci...347..768J. doi:10.1126/science.1260352. PMID 25678662.
  6. 6.0 6.1 Weis, Judith S.; Butler, Carol A. (2009). "Pollution". In Weis, Judith S.; Butler, Carol A. (gol.). Salt Marshes. A Natural and Unnatural History. Rutgers University Press. tt. 117–149. ISBN 978-0813545486. JSTOR j.ctt5hj4c2.10.
  7. Panetta, L.E. (Chair) (2003). America's living oceans: charting a course for sea change (PDF). Pew Oceans Commission. t. 64.
  8. Van Landuyt, Josefien; Kundu, Kankana; Van Haelst, Sven; Neyts, Marijke; Parmentier, Koen; De Rijcke, Maarten; Boon, Nico (2022-10-18). "80 years later: Marine sediments still influenced by an old war ship". Frontiers in Marine Science 9: 1017136. doi:10.3389/fmars.2022.1017136. ISSN 2296-7745. https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fmars.2022.1017136/full.
  9. Schulkin, Andrew (2002). "Safe harbors: Crafting an international solution to cruise ship pollution". Georgetown International Environmental Law Review 15 (1): 105–132. https://www.proquest.com/openview/408bf9d53e951415fbc9bbef80bfce9c/1.
  10. Podsadam, Janice (19 June 2001). "Lost Sea Cargo: Beach Bounty or Junk?". National Geographic News. Cyrchwyd 8 April 2008.
  11. Meinesz, A. (2003) Deep Sea Invasion: The Impact of Invasive Species PBS: NOVA. Retrieved 26 November 2009
  12. "The Impacts of Atmospheric Deposition to the Ocean on Marine Ecosystems and Climate". public.wmo.int (yn Saesneg). 2015-11-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd 2022-08-11.
  13. Duce, RA; Unni, CK; Ray, BJ; Prospero, JM; Merrill, JT (26 September 1980). "Long-Range Atmospheric Transport of Soil Dust from Asia to the Tropical North Pacific: Temporal Variability". Science 209 (4464): 1522–1524. Bibcode 1980Sci...209.1522D. doi:10.1126/science.209.4464.1522. PMID 17745962. https://archive.org/details/sim_science_1980-09-26_209_4464/page/1522.
  14. Doney, S. C. (2006) "The Dangers of Ocean Acidification Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback" Scientific American, March 2006
  15. Hauton, Chris; Brown, Alastair; Thatje, Sven; Mestre, Nélia C.; Bebianno, Maria J.; Martins, Inês; Bettencourt, Raul; Canals, Miquel et al. (2017-11-16). "Identifying Toxic Impacts of Metals Potentially Released during Deep-Sea Mining—A Synthesis of the Challenges to Quantifying Risk". Frontiers in Marine Science 4: 368. doi:10.3389/fmars.2017.00368. ISSN 2296-7745.
  16. Lopes, Carina L.; Bastos, Luísa; Caetano, Miguel; Martins, Irene; Santos, Miguel M.; Iglesias, Isabel (2019-02-10). "Development of physical modelling tools in support of risk scenarios: A new framework focused on deep-sea mining" (yn en). Science of the Total Environment 650 (Pt 2): 2294–2306. Bibcode 2019ScTEn.650.2294L. doi:10.1016/j.scitotenv.2018.09.351. ISSN 0048-9697. PMID 30292122. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S004896971833852X.