Llyn Bochlwyd
llyn yn Eryri, Cymru
Llyn yn Eryri, ym mwrdeisdref sirol Conwy, yw Llyn Bochlwyd.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.11385°N 4.01147°W |
Safle
golyguSaif yng Nghwm Bochlwyd yn y Glyderau, uwchben Llyn Idwal ac islaw Bwlch Tryfan, gyda mynyddoedd Tryfan a'r Glyder Fach gerllaw.
Mae'n lyn uchel, 555 medr (1821 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 10.4 erw.
Mae Nant Bochlwyd yn tarddu o'r llyn ac yn llifo i lawr y llethrau tua'r gogledd i ymuno â Llyn Ogwen.
Enw
golyguMae'r enw yn tarddu o hen stori am hydd (carw gwryw) llwyd yn ffoi rhag heliwr gan ddianc drwy neidio o uchder mawr i’r llyn a nofio i ddiogelwch wrth ddal ei fochau llwyd uwchben wyneb y dŵr, er mwyn anadlu.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (yn cy) Welsh place names - Wales Live | Comedian Tudur Owen talks about Welsh place names at risk of being lost along with the stories behind them. More on Wales Live Available now on BBC iPlayer | By BBC Cymru Wales | Facebook, https://www.facebook.com/BBCCymruWales/videos/welsh-place-names-wales-live/1848732175188194/, adalwyd 2023-11-15