Glyder Fach

mynydd (994.3m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Mynydd yn Eryri yw'r Glyder Fach; yr ail uchaf yn y Glyderau.

Glyder Fach
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr994 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.10482°N 4.00841°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6564658289 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd74.5 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaGlyder Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGlyderau Edit this on Wikidata
Map

Yn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".

Daearyddiaeth

golygu

Saif y copa rhyw 5m yn is na'r Glyder Fawr. Saif i'r dwyrain o'r Glyder Fawr ac i'r de o gopa Tryfan. Islaw'r copa tua'r gogledd mae Llyn Bochlwyd. Mae'n gorwedd yn Sir Conwy er 1996.

Mae'r copa ei hun, a'r holl ardal o'i gwmpas, yn greigiog dros ben, â ffurfiadau nodedig y creigiau gan gynnwys Castell y Gwynt a Charreg y Gwyliwr.

Llwybrau

golygu

Gellir ei ddringo o Gwm Idwal, un ai trwy ddilyn y llwybr heibio'r Twll Du i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i gopa'r Glyder Fach dros Fwlch y Ddwy Glyder, neu anelu am Fwlch Tryfan a throi i'r de am y Glyder Fach. Mae'r llwybr syth o Fwlch Tryfan i'r copa yn dilyn crib a enwyd yn y Grib Bigog[1] neu Bristly Ridge, ac yn llwybr llawer anoddach, ond ceir ymuno â'r llwybr haws sy'n arwain at y copa o'r dwyrain oddi ar y Foel Goch. Gellir hefyd ei ddringo o'r de, o Pen-y-Pass. Mae rhai o glogwyni'r Glyder Fach yn gyrchfan boblogaidd iawn i ddringwyr.

Oriel luniau

golygu

Ymddangosodd "Castell y Gwynt" a "Charreg y Gwyliwr" mewn ffilm gan Walt Disney ym 1981: Dragonslayer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Enw Cymraeg a ddefnyddir gan Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru, (Llyfrau'r Dryw, 1965), er bod yr enw Saesneg yn enwocach.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)