Llyn Ogwen
Mae Llyn Ogwen (Llyn Ogwan ar lafar yn lleol) yn llyn yn Eryri, uwchben pen uchaf Nant Ffrancon, rhyw bedair milltir i'r de-ddwyrain o bentref Bethesda, Gwynedd a thair milltir a hanner o bentref Capel Curig i'r dwyrain. Mae'n gorwedd mewn dyffryn mynyddig agored rhwng mynyddoedd y Carneddau i'r gogledd a'r Glyderau i'r de. Mae'n darddle i Afon Ogwen, sy'n rhedeg allan o ben gorllewinol y llyn.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.13°N 4°W |
Disgrifiad
golyguMae'n llyn tua 78 erw o faint ond nid yw'n ddwfn iawn, rhyw ychydig dros ddeg troedfedd yn y man dyfnaf. Codwyd argae isel ym mhen gorllewinol y llyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ar gyfer cyflewni dŵr i waith Chwarel Penrhyn. Ceir golygfeydd gwych o fynyddoedd y Carneddau a'r Glyderau o Lyn Ogwen, gan ei fod yn gorwedd rhwng y ddau. Ar un ochr i'r llyn mae Pen yr Ole Wen a'r ochr arall Tryfan. Ceir llwybrau i ddringo'r mynyddoedd hynny o lan y llyn. Mae'r ffordd A5 yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, ac mae llwybr cyhoeddus tu arall, sy'n golygu ei bod hi'n bosib cerdded o gwmpas y llyn.
Mae Llyn Ogwen yn lle poblogaidd gan ymwelwyr. Mae'r llyn hefyd yn weddol boblogaidd gyda physgotwyr, sy'n dal brithyll yno.
Yn nhermau daearyddiaeth llywodraeth leol, mae Llyn Ogwen mewn sefyllfa anghyffredin. Amgylchynir y llyn yn gyfangwbl bron gan dir sy'n gorwedd yn Sir Conwy, ond mae'r llyn ei hun a mymryn o dir o gwmpas ceg Afon Ogwen yn gorwedd yng Ngwynedd.
Llafar, llên a llyfr
golyguOgwan yw ffurf wreiddiol yr enw Ogwen a dyna'r ffurf ar geir ar lafar hyd heddiw. Ystyr yr enw, yn ôl pob tebyg, yw "banw neu borchell buan" (gweler yma am esboniad).
Ceir nifer o gyfeiriadau at Lyn Ogwen yn y nofel seicolegol Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Cofnododd Richard Llewelyn Headley am sglefrio ar y llyn ar yr 8 Chwefror 1895, blwyddyn Yr Heth Fawr: Went up to the lake with Dunlop [Dunlop Morgan] Skating going on there.[1]. Mae Llyn Ogwen yn fas iawn (10m. heb ddim thermocline) ac yn uchel, sydd yn ei ragdueddu i rewi'n gynt na llynnoedd mawr eraill yr ardal. Ei bellter o Bethesda oedd efallai yn milwrio yn erbyn y math hwn o hamddena ond absenoldeb llyn mwy cyfleus agosach fyddai wedi ei ffafrio.