Llyn Bychan

llyn bychan yng Nghonwy

Gorwedd Llyn Bychan yng Nghoedwig Gwydyr, Sir Conwy, tua 2 filltir i'r dwyrain o Gapel Curig. Mae'n llyn 3 acer sy'n rhan o Barc Coedwig Gwydyr a Pharc Cenedlaethol Eryri. Ei hyd yw tua 225 metr a'i led tua 100 metr ar ei letaf.

Llyn Bychan
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.116474°N 3.867884°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r llyn yn gorwedd mewn pant rhwng Llyn Geirionydd i'r gogledd a Llyn Goddionduon i'r de. Yn anarferol, ceir dwy ffrwd yn llifo o'r llyn, un yn llifo i'r de i Lyn Goddionduon a'r llall yn llifo i'r gogledd i Lyn Geirionydd. Bwydir y llyn ei hun gan sawl ffrwd fach.

Ceir brithyll brown yn y llyn, a ddefnyddwyr gan bysgotwyr lleol. Mae'r brithyll yn cael eu stocio ar gyfer pysgota.[1]

Gellir cyrraedd y llyn trwy ddilyn llwybr trwy'r goedwig sy'n cychwyn ar yr A5 tua chwarter milltir i'r gorllewin o'r Tŷ Hyll.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pysgotwyr Betws-y-coed". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-23. Cyrchwyd 2010-04-14.