Llyn Goddion Duon
llyn yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Llyn Goddionduon)
Llyn yng Nghoedwig Gwydyr yn sir Conwy yw Llyn Goddion Duon (neu Llyn Goddionduon). Saif 794 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 10 acer. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r llynnoedd yng Nghoedwig Gwydyr, mae'n lyn hollol naturiol, ac nid oes argae yno.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.11°N 3.8636°W |
Rheolir gan | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae ystyr yr enw yn dipyn o ddirgelwch, gan nad oes eglurhad o'r gair "Goddion". Yn ôl rhai ffynonellau, "Llyn y Goeden" oedd yr enw gwreiddiol, a chamgymeriad ar fap a greodd yr enw "Goddionduon".
Ceir brithyll yma, a rheolir y pysgota gan Glwb Pysgota Betws y Coed.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts 'The Lakes of Eryri, (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)