Llyn Conglog Mawr
llyn ger Trawsfynydd, Gwynedd
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Conglog Mawr. Saif i'r dwyrain o bentref Trawsfynydd a chaer Rufeinig Tomen y Mur ac i'r gogledd o'r briffordd A4212, 1,400 troedfedd uwch lefel y môr. Mae Afon Prysor yn tarddu o'r llyn. Gerllaw Llyn Conglog Mawr, sydd ag arwynebedd o 8 acer, mae llyn llai Llyn Conglog Bach.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8 acre ![]() |
Cyfesurynnau | 52.931612°N 3.847249°W ![]() |
![]() | |
Ceir pysgota am frithyll yn y llyn. Rhyw filltir i lawr yr afon mae hen gloddfa aur Arenig.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1f/Llyn_Conglog-mawr_-_geograph.org.uk_-_211374.jpg/250px-Llyn_Conglog-mawr_-_geograph.org.uk_-_211374.jpg)
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)