Afon Prysor
Afon yng ngogledd Meirionnydd (de Gwynedd) yw Afon Prysor. Mae'n codi ar y rhosdiroedd rhwng Ffestiniog a'r Bala ac yn aberu yn Afon Dwyryd ger Maentwrog. Ei hyd yw tua 14 milltir.[1]
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 195 metr |
Cyfesurynnau | 52.899843°N 3.904026°W |
Disgrifiad
golyguTarddle Afon Prysor yw Llyn Conglog Mawr, mewn cwm gwyllt ac unig yng nghysgod bryniau Foel Cynfal a Moel y Croesau, tua 1100 troedfedd uwch lefel y môr. Mae'n ardal wlyb iawn, yn ymyl y Migneint a'i gorsydd eang. Llifa ar gwrs tro bedol am ddwy filltir gan gasglu afonig o Lyn Cors-y-barcud a disgyn i Gwm Prysor. Mae'n troi i'r gorllewin i lawr y cwm ac yn casglu dŵr o sawl ffrwd arall megis Nant Braich-y-ceunant, Nant Budr, Nant Bryn-llefrith ac Afon Llafar a'r ffrwd sy'n disgyn o Llyn Hiraethlyn. Mae'r A4212 yn dilyn ei glannau. Mae'n llifo heibio i Graig Aderyn a Chastell Prysor ac yn disgyn i Lyn Trawsfynydd, y gronfa a greuwyd â dŵr yr afon i oeri atomfa Trawsfynydd.[1]
Ar ôl croesi'r llyn mae'n disgyn yn gyflym trwy goedwig Ceunant Llennyrch i aberu yn Afon Dwyryd tua milltir a hanner i'r gorllewin o Faentwrog.[1]