Llyn Cors Y Barcud

(Ailgyfeiriad o Llyn Cors-y-barcud)

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Cors-y-barcud. Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r dwyrain o bentref Trawsfynydd ym Meirionnydd.

Llyn Cors-y-barcud
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrawsfynydd Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.938262°N 3.844556°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn y Cors-y-barcud

Saif y llyn bychan hwn 1,500 troedfedd[1] i fyny 1.5 milltir i'r dwyrain o gopa'r Graig Wen a 2milltir i'r gorllewin o gopa Carnedd Iago ar ymyl corsdir y Migneint. Ceir llyn bychan iawn ger copa Foel Cynfal gerllaw ac mae'r ffrwd o'r llyn hwnnw yn llifo i Lyn Cors-y-barcud. Llifa ffrwd allan o'i ben dwyreiniol i lifo i Afon Prysor tua milltir yn is i lawr. Mae Afon Prysor yn llifo i Lyn Trawsfynydd.[2]

Ceir brithyll yn y llyn.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.