Agor y brif ddewislen

Llyn yng Nghwm Ystradllyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwmystradllyn. Saif i'r de o gopa Moel Hebog, i'r gogledd o dref Porthmadog ac i'r dwyrain o Gwm Pennant. Mae ganddo arwynebedd o 98 acer ac mae 642 troedfedd uwch lefel y môr.

Llyn Cwmystradllyn
Llyn Cwm Ystradllyn - geograph.org.uk - 46583.jpg
Math Llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 98 Erw Edit this on Wikidata
Uwch y môr 942 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.977907°N 4.143688°W Edit this on Wikidata

Adeiladwyd argae yma yn 1959 i godi lefel y dŵr, ac mae'n cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr i ran o Benrhyn Llŷn. Ceir pysgota am frithyll yma. Mae Afon Henwy yn llifo o'r llyn ac yn ymuno ag Afon Dwyfor.

Gellir gweld nifer o olion cytiau o Oes yr Haearn o gwmpas y llyn, ac mae fersiwn o'r chwedl am briodas a merch o'r Tylwyth Teg yn gysylltiedig a'r llyn, tebyg i'r un a gysylltir a Llyn y Fan Fach a Llyn y Dywarchen. Yn y fersiwm yma, mae bugail yn priodi'r ferch, ac maent yn byw yn hapus nes iddi gael ei tharo ar ei braich gan gryman haearn oedd wedi ei adael mewn ysgub wrth gasglu'r cynhaeaf. Pan ddigwyddodd hyn, diflannodd y ferch.

I'r gogledd-ddwyrain o'r llyn mae olion Chwarel Gorseddau.

LlyfryddiaethGolygu

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: