Llyn y Fan Fach
Lleolir Llyn y Fan Fach yng ngodre ddwyreiniol y Mynydd Du (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), yn Sir Gaerfyrddin. Yn agos iddo ceir Llyn y Fan Fawr.
Math | cronfa ddŵr, llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8819°N 3.7419°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Chwedl Llyn y Fan Fach
golyguCysylltir chwedl llên gwerin â'r llyn. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger Llanddeusant) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol un o'r enw Rhiwallon (mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith). Ymhen y rhawd aeth Rhiwallon a'r meibion eraill i lys Rhys Gryg o Ddeheubarth lle daethant yn feddygon enwog a adwaenir heddiw fel Meddygon Myddfai. Erys nifer o'i fformiwlau meddygol yn y llawysgrifau.
Diau mai duwies Geltaidd oedd 'Merch Llyn y Fan Fach' yn wreiddiol. Mae sawl elfen yn y stori yn perthyn i draddodiadau'r Tylwyth Teg yn ogystal.
Darllen pellach
golyguCeir sawl fersiwn o'r chwedl adnabyddus hon yn Gymraeg a Saesneg.
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg, newydd 1979), tt. 61-4. Cefndir a llawer o fanylion difyr.
Oriel
golygu-
Yr olygfa o Waun Lefrith
-
Llyn y Fan Fach oddi ar grib Picws Du
-
Murlyn ar wal meddygfa yn Rhuthun yn darlunio rhan o'r chwedl.