Llyn Cynwch
llyn, Gwynedd, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cynwch. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau ac i'r dwyrain o Afon Mawddach: NGR SH 73765 20786. Mae gan y llyn, sy'n rhan o ystad Nannau, arwynebedd o 26 acer a dyfnder o 31 troedfedd yn y man dyfnaf; mae 729 troedfedd uwch lefel y môr.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Brithdir a Llanfachreth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.76991°N 3.872702°W |
Cod OS | SH7376520786 |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Adeiladwyd argae yn 1968 i godi lefel y llyn i gyflenwi dŵr i Dolgellau. Ceir pysgota am frithyll yma.
Pysgod a physgota
golygu- Cofnododd C.E. Munro Edwards yn ei ddyddiadur[1] iddo ymweld yn eitha aml â Llyn Cynwch i bysgota.
- Brithyll
- Ym misoedd Awst rhwng 1872 ac 1882 ar 9 ymweliad â’r llyn, fe ddaliodd 183 o frithyll ond chwyddwyd y cyfrif hwn gan gofnod 8 Awst 1872 gan iddo ddal 150 y diwrnod hwnnw. Mae’r dyddiadur yn cynnwys data tebyg o fisoedd eraill
- Draenogyn dŵr
- Prif nod ei ymweliadau fodd bynnag oedd pysgota am y draenogyn dŵr croyw Perca fluviatilis, yr unig le iddo gofnodi’r pysgodyn bras hwn yn ei ardal. Cofnododd [2] fanylion am 45 o ymweliadau â’r llyn rhwng 1872 ac 1895, pob un namyn 3 ym misoedd Mehefin (11), Gorffennaf (17) ac Awst (13). Ym mis Awst y daliodd y niferoedd mwyaf, sef cyfartaledd pob ymweliad o 10.1 draenogyn (uchafswm o 37 ar 6 Awst 1878). Diddorol fyddai cymharu bagiau pysgotwyr heddiw gyda’r ffigyrau hyn.
- Llysywen
- Yr unig rywogaeth arall y cyfeiriodd Edwards ato yn y llyn oedd llysywod. Soniodd ym mis Mehefin 1876 am ”a remarkably large eel” a thro arall “only hooked a large eel”.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)