Llyn mawr yng nghanolbarth Mali, gorllewin Affrica, a ffurfir gan orlifiad tymhorol Afon Niger yw Llyn Débo.

Ynys dros dro yng nghanol Llyn Débo

Ar ei fwyaf, ar ôl i'r Niger orlifo mae Llyn Débo yn gorwedd tua 80 km o ddinas Mopti a thua 240 km o Tombouctou (Timbuktu). Dyma'r mwyaf o sawl llyn tymhorol a gwlybdir ym Mali sy'n ffurfio Delta Mewndirol Afon Niger, a'r llyn mwyaf ym Mali. Mae ei arwynebedd yn lleihau yn sylweddol yn y tymor sych, o fis Medi hyd Mawrth.

Mae'r pobloedd Bozo yn pysgota ar y llyn yn y tymor gwlyb tra bod y bobl Fula yn arfer amaeth a hwsmonaeth ar ei lannau yn y tymor sych.

Mae'r llyn yn arosfan bwysig i adar mudol, ac mae wedi cael ei ddynodi yn safle arbennig i'r adar hynny gan UNESCO.