Llyn Ffynnon y Gwas

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn ar lethrau'r Wyddfa yn Eryri yw Llyn Ffynnon y Gwas. Mae'r llyn, sydd ag arwynebedd o 10 acer, yng Nghwm Clogwyn, 1,381 troedfedd uwch lefel y môr.

Llyn Ffynnon y Gwas
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,381 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Cwellyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.076927°N 4.104697°W Edit this on Wikidata
Map

Un eglurhad o'r enw yw'r traddodiad lleol fod bugail wedi boddi yma wrth olchi defaid ei feistr lawer blwyddyn yn ôl.[1]

Ar un adeg roedd y llyn yn gronfa yn cyflenwi dŵr i chwareli llechi ardal Rhyd Ddu, ac mae'r argae yn dal i'w weld. Ceir brithyll yn y llyn, ond nid ydynt yn tyfu'n fawr. Mae'r afon sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i lyn llai islaw iddo, oedd hefyd yn gronfa ddŵr, yna fel Afon Treweunydd yn ymuno ag Afon Gwyrfai ychydig cyn iddi lifo i mewn i Lyn Cwellyn.

Gellir cyrraedd y llyn trwy ddilyn llwybr y Snowdon Ranger o Ryd-Ddu.

Llyn Ffynnon y Gwas

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Cyfeiriadau golygu

  1. Frank Ward, The Lakes of Wales (Llundain, 1931), tud. 124.