Betws-y-Coed
Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Betws-y-Coed. Gerllaw, mae'r Bont Waterloo haearn yn cario'r A5 dros Afon Conwy. Mae Afon Llugwy, sy'n rhedeg trwy'r pentref, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw. Mae Caerdydd 184.1 km i ffwrdd o Betws-y-Coed ac mae Llundain yn 306.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 26.6 km i ffwrdd.
![]() | |
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol |
Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.092°N 3.792°W ![]() |
Cod SYG |
W04000106 ![]() |
Cod OS |
SH795565 ![]() |
Cod post |
LL24 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Yr enwGolygu
Un o'r hen enwau ar y pentref oedd Betws Wyrion Iddon.[1] Fe'i gelwid hefyd Llanfihangel y Betws yn ôl y Parochiale Wallicanum ("Plwyfi Cymru") a gyhoeddwyd yn 1721.[1] Ystyr 'betws' yw "capel anwes, tŷ gweddi neu eglwys fach", ac mae'n air Cymraeg Canol sy'n fenthyciad o'r gair Hen Saesneg bede-hūs (bead-house). Ystyr yr enw 'Betws-y-Coed' felly yw "Y Tŷ Gweddi yn y Coed", er bod bead-house yn gallu golygu "elusendy" hefyd yn Saesneg.
DaearyddiaethGolygu
Mae'r pentref presennol yn wasgaredig ar ddwy lan Afon Llugwy lle egyr y dyffryn allan wrth ymuno â dolydd isel gwastad Dyffryn Conwy. Mae'r ardal yn goediog iawn ond erbyn heddiw mae'r hen goedwigoedd cysefin wedi ildio lle i goedwigoedd pinwydd trwchus y Comisiwn Coedwigaeth sy'n gorchuddio'r bryniau i'r gogledd ac i'r de o Fetws-y-Coed. Tu draw i Goedwig Gartheryr, i'r de, mae Llyn Elsi yn gorwedd.
HanesGolygu
Hyd at y 16g roedd Betws yn rhan o blwyf Llanrhychwyn a honno yn ei thro yn rhan o gwmwd Nant Conwy yn nghantref Arllechwedd. Ymddengys fod eglwys wedi sefyll ym Metws ers Oes y Seintiau. Mae cwrs ffordd Rufeinig, a elwir Sarn Helen fel cynifer o'i thebyg, yn pasio'n agos i'r pentref ar ei ffordd o gaer Caerhun (Canovium) i Ddyfryn Lledr ac mae cangen ohoni'n rhedeg i fyny dyffryn Afon Llugwy i Gapel Curig. Roedd Rhys Gethin, un o gapteiniad pennaf Owain Glyndŵr, yn byw yn 'Hendre Rhys Gethin' ym mhlwyf Betws-y-Coed. Roedd ei frawd Hywel Coetmor, oedd hefyd yn wrthryfelwr a noddwr beirdd, yn byw yng Nghastell Cefel yng Nghoedmor gerllaw, yn ôl Syr John Wynn o Wydir. Ceir beddfaen eu taid Gruffudd ap Dafydd Goch yn yr eglwys (gweler isod).
Rhywbryd yn y 15g codwyd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (gweler isod). Tyfodd y pentref yn gyflym yn ail hanner y 19g. Daeth yn fangre boblogaidd iawn gan arlunwyr o dros Glawdd Offa ac am gyfnod roeddynt yn ffurfio cylch artistaidd tebyg i'r un a gafwyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae nifer o dai yn y pentref yn dyddio o'r cyfnod hwnnw a blynyddoedd cynnar yr 20g.
Yr hen eglwysGolygu
Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf rheiffordd ac Afon Conwy ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14g neu'n gynnar yn y 15g. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12g, yn ôl pob tebyg.
Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd fab Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,
- HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE MEI
- (Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)[1]
Tyfa tair ywen hynafol ym mynwent yr eglwys. Mae'r hen borth yn dyddio o 1750. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal ceir pont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.
Yr eglwys newyddGolygu
Saif Eglwys y Santes Fair yn Neoniaeth Arllechwedd, Esgobaeth Bangor. Eglwys Anglicanaidd ydyw (h.y. yr Eglwys yng Nghymru) ac mae ei drysau ar agor yn wythnosol.[2] Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II*.[3] Oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, roedd Eglwys Mihangel Sant yn rhy fach a phenderfynwyd codi eglwys newydd, Eglwys y Santes Fair, rhwng 1870 a 1873, yng nghanol y pentref, wrth ochr y brif ffordd. Fe'i cysegrwyd yng Ngorffennaf 1873, a cheir lle i 150 person.[4] ar gost o £5,000 (sy'n gyfwerth â £400,000 heddiw). Cwbwlhawyd y tŵr yn 1907.[3]
Pont-y-PairGolygu
Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (fe'i priodolir i Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny). Mae ganddi bump bwa â'r un yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.
Y pentref heddiwGolygu
Ers canrif a mwy mae Betws wedi bod yn boblogaidd gan ymwelwyr ac yn ganolfan hwylus ar gyfer ymweld ag Eryri. Mae nifer o westai yn y pentref a cheir sawl siop offer dringo a cherdded yn y stryd fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi'u hadeiladu â cherrig lleol. Mae gan y pentref boblogaeth o 1,187 (Cyfrifiad 2001).
Ceir amgueddfa a chanolfan ymwelwyr yn yr hen orsaf.
DelweddauGolygu
Beddfaen Gruffudd ap Dafydd Goch
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Atyniadau eraillGolygu
Hanner ffordd rhwng Betws a Chapel Curig mae'r Tŷ Hyll. Cyn cyraedd y tŷ, rhyw 2 filltir o'r pentref, mae'r Rhaeadr Ewynnol ("Swallow Falls" yn Saesneg).
LlyfryddiaethGolygu
- Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; adargraffiad 1984)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
- ↑ St Mary, Betws-y-coed, Esgobaeth Bangor, http://www.churchinwales.org.uk/bangor/diocese/parish_details/arllechwedd/stmarybetwsycoed.html, adalwyd 9 Mehefin 2011
- ↑ 3.0 3.1 St Mary's Church, Betws-y-Coed, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=3640, adalwyd 9 Mehefin 2011
- ↑ Brandwood et al. 2012, tt. 101, 226.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan