Llyn Iwerddon
llyn yng Ngwynedd
Llyn bychan yn Eryri yw Llyn Iwerddon, a leolir yn y bryniau i'r gorllewin o Fwlch y Gorddinen (Bwlch Crimea) ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.[1]
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ffestiniog |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0043 km² |
Uwch y môr | 525 metr |
Cyfesurynnau | 53.011569°N 3.960868°W |
Saif y llyn tua hanner milltir i'r dwyrain o gopa Moel Druman (656m) mewn ardal lle gweithwyd sawl chwarel lechfaen yn y 19g. Codwyd dwy argae ar geg y llyn i godi'r lefel ar gyfer crew ynni yng ngwaith chwarel Oakeley; llifa ffrwd ohono i gronfa ddŵr tua milltir yn is i lawr.[1]