Moel Druman
mynydd (676m) yng Ngwynedd
Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Druman. Saif ar y grib sy'n ymestyn o'r ardal i'r de o Moel Siabod tua'r de, dros gopaon Yr Arddu, Ysgafell Wen a Moel Druman, gan orffen gydag Allt Fawr uwchben Blaenau Ffestiniog.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 676 metr |
Cyfesurynnau | 53.0092°N 3.9822°W |
Cod OS | SH6716147645 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 61 metr |
Rhiant gopa | Allt Fawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Saif Llyn Conglog i'r de o'r copa, gyda Llyn Cwmorthin islaw, a Llyn yr Adar i'r gorllewin. Mae ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. Gellir ei ddringo o bentref Tanygrisiau ar hyd Cwmorthin.