Llyn Michigan
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Michigan (Saesneg: Lake Michigan). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y pedwerydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Credir fod yr enw yn dod o'r Ojibweg mishigami, yn golygu "dŵr mawr".
Delwedd:Great Lakes Lake Michigan.png, Darlinton map of lake Michigan 1680.png | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lake Michigan–Huron, Y Llynnoedd Mawr ![]() |
Sir | Michigan, Wisconsin, Illinois, Indiana ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Arwynebedd | 57,750 km² ![]() |
Uwch y môr | 176 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Upper Peninsula of Michigan, Lower Peninsula of Michigan ![]() |
Cyfesurynnau | 44.007874°N 86.756451°W ![]() |
Llednentydd | Afon Milwaukee, Afon Kalamazoo, Afon Fox, Afon Grand, Afon Root, Afon Calumet, Afon St. Joseph, Afon Ahnapee, Afon Big Sable, Afon Carp Lake, Afon Crystal, Afon Cut, Afon Escanaba, Afon Galien, Afon Leland, Afon Manistee, Afon Manistique, Afon Oconto, Afon Platte, Afon Pointe aux Chenes, Afon Sheboygan, Trail Creek, Dunes Creek, Pere Marquette Lake ![]() |
Hyd | 494 cilometr ![]() |
![]() | |
Llyn Michigan yw'r unig un o'r Llynnoedd Mawr sy'n gyfangwbl o fewn yr Unol Daleithiau. O'r gorllewin i'r dwyrain, mae'n ffinio ar daleithiau Wisconsin, Illinois, Indiana a Michigan. Mae ei arwynebedd yn 58,016 km2, ac mae'n cynnwys 4,918 km³ o ddŵr. Ceir nifer o ddinasoedd ar ei lan; yr enwocaf yw Chicago.