Llyn Namtso
Llyn sy'n gorwedd ar y ffin rhang Swydd Damxung yn Rhaglawiaeth Lhasa a Swydd Baingoin yn Rhaglawiaeth Nagqu, Tibet, yw Llyn Namtso neu Nam Co (Tibeteg: Nam Co; Mongoleg: Tengri Nor "Llyn Nefolaidd"). Mae'n gorwedd 4,718m i fyny tua 70 milltir i'r gogledd-orllewin o Lhasa, prifddinas Tibet. Dyma'r llyn dŵr hallt uchaf yn y byd.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Tibet |
Gwlad | [[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tibet|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tibet]] [[Nodyn:Alias gwlad Tibet]] |
Arwynebedd | 1,920 km² |
Uwch y môr | 4,718 metr |
Cyfesurynnau | 30.7208°N 90.4681°E |
Dalgylch | 10,741 cilometr sgwâr |
Hyd | 70 cilometr |
Mae Namtso - fel Llyn Manasarovar a llynnoedd eraill - yn un o lynnoedd sanctaidd Tibet. Gorwedd ym mynyddoedd Nyainqêntanglha ac mae'n gyrchfan pererindod i ddilynwyr Bwdhaeth Tibet sy'n dod i ymweld â'r ogofâu sanctaidd, cartref i feudwyon a seintiau yn y gorffennol. Heddiw mae awdurdodau Gweriniaeth Pobl Tsieina yn ceisio datblygu twristiaeth yn yr ardal.