Mongoleg
iaith
Iaith a siaredir ym Mongolia a rhanbarthau cyfagos o Tsieina a Rwsia yw Mongoleg. Hi yw aelod mwyaf adnabyddus y grŵp ieithyddol o ieithoedd Mongolaidd, a chredir ei bod yn perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Altaig. Ceir tua 5.7 miliwn o siaradwyr i gyd, yn cynnwys tua 90% o drigolion Mongolia, a niferoedd sylweddol ym Mongolia Fewnol.
Mae'r iaith wedi defnyddio nifer o wyddorau dros y canrifoedd. Crewyd yr Wyddor Fongolaidd yn y 12g, a defnyddiwyd hi hyd 1943, pan ddechreuwyd defnyddio yr wyddor Gyrilig yn ei lle. Erbyn hyn, ail-ddechreuwyd dysgu'r wyddor Fongolaidd yn yr ysglion. Parhawyd i ddefnyddio'r wyddor draddodiadol ym Mongolia Fewnol, sy'n rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.