Llyn Newydd

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Newydd. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog, 1,550 troedfedd uwch lefel y môr, gyda Llyn Bowydd gerllaw iddo. Amgylchynir y llyn, sydd ag arwynebedd o 12 acer, gan chwareli llechi, yn cynnwys Chwarel Maenofferen a Chwt-y-bugail.

Llyn Newydd
Llyn Newydd gyda Llyn Bowydd o'i flaen
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.00608°N 3.90482°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganJ W Greaves & Son Limited Edit this on Wikidata
Map

Crewyd y llyn fel cronfa ddŵr i gyflenwi anghenion Chwarel Maenofferen trwy adeiladu argae yn 1860. Defnyddid y dŵr i yrru peiriannau'r charel, ac yn 1918 i gynhyrchu trydan.

Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Bowydd yn fuan wedyn. Mae'r afon yma yn diflannu dan domenni rwbel y chwareli am bellter cyn dod i'r golwg eto ar ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog. Mae'n llifo tua'r de ar hyd Cwm Bowydd i ymuno ag Afon Goedol sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Dwyryd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)