Llyn Bowydd

llyn ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Bowydd. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog, 1,550 troedfedd uwch lefel y môr, gyda chronfa ddŵr Llyn Newydd gerllaw iddo. Amgylchynir y llyn, sydd ag arwynebedd o 22 acer, gan chwareli llechi, yn cynnwys Chwarel Maenofferen a Chwt-y-bugail. Adeiladwyd argae yn y 1850au i godi lefel y dŵr er mwyn ei ddefnyddio yn y chwareli.

Llyn Bowydd
Llyn Bowydd gyda Llyn Newydd y tu ôl iddo
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd22 acre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.003194°N 3.901424°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganJ W Greaves & Son Limited Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Bowydd yn llifo o'r llyn, ac yn diflannu dan domenni rwbel y chwareli am bellter cyn dod i'r golwg eto ar ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog. Mae'n llifo tua'r de ar hyd Cwm Bowydd i ymuno ag Afon Goedol sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Dwyryd. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)