Llyn Pen-rhaeadr
llyn yng Ngheredigion
Llyn bychan yng nghanolbarth Cymru yw Llyn Pen-rhaeadr (hefyd Llyn Pen-rhaiadr). Fe'i lleolir yn union ar y ffin sirol rhwng Ceredigion a Powys tua 5 milltir i'r de o dref Machynlleth. Dyma darddle Afon Llyfnant, un o lednentydd Afon Dyfi.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0725 km² |
Uwch y môr | 419 metr |
Cyfesurynnau | 52.522318°N 3.840063°W |
Disgrifiad
golyguSaif y llyn tua 400 meter i fyny yn rhan ogleddol bryniau Pumlumon, 2 filltir i'r gogledd o safle Brwydr Hyddgen. Rhos y Llyn y gelwir y gwaundir o'i gwmpas. Llifa ffrwd i'r llyn o lethrau Hyddgen.[1]
Llifa Afon Llyfnant allan o'r llyn i gyfeiriad y gogledd. Mae'n llifo dros graig gan greu rhaeadr Pistyll y Llyn tua hanner milltir o'r llyn.[1] Cyfeiria enw'r llyn at y rhaeadr hon.
Ceir dau lyn arall gerllaw o fewn milltir i Lyn Pen-rhaeadr, sef Llyn Conach i'r gorllewin a Llyn Plas-y-mynydd i'r de.[1]