Llyn Prespa
Dau lyn ger y ffin rhwng Albania, Gwlad Groeg a Gogledd Macedonia yw Prespa neu Llynnoedd Prespa'. Rhennir Llyn Prespa Mawr rhwng y tair gwlad, tra mae Llyn Prespa Bach yn cael ei rannu rhwng Groeg ac Albania.
Math | llyn |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Albanian Prespa Lakes |
Sir | Western Macedonia |
Gwlad | Gogledd Macedonia, Albania, Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 273 km² |
Uwch y môr | 853 metr |
Cyfesurynnau | 40.9°N 21.05°E |
Hyd | 34 cilometr |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Saif y llynnoedd 853 medr uwch lefel y môr. Llifa'r dwr trwy sianeli tanddaearol yn y karst i lawr i Lyn Ohrid, 150 medr yn is. Y dref bwysicaf ger y llynnoedd yw Resen, yng Ngogledd Macedonia.