Llyn Ohrid
Mae Llyn Ohrid (Macedonieg: Охридско Езеро, Ohridsko Ezero; Albaneg: Liqeni i Ohrit) yn llyn ar y ffin fynyddig rhwng de-orllewin Gogledd Macedonia a dwyrain Albania, ger dinas Ohrid.
Math | llyn, ancient lake |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Natural and Cultural Heritage of the Ohrid region |
Gwlad | Gogledd Macedonia, Albania |
Arwynebedd | 349 km² |
Uwch y môr | 695 metr |
Cyfesurynnau | 41.03°N 20.72°E |
Dalgylch | 1,414 cilometr sgwâr |
Hyd | 30.4 cilometr |
Mae'n bosibl ei fod y llyn hynaf yn Ewrop, gyda ecosystem unigryw sy'n gartref i 200 rhywogaeth endemig o bwysigrwydd byd-eang. Cadarnheuwyd pwygigrwydd y llyn pan gafodd ei ddatgan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979. Fodd bynnag, mae gweithgaredd pobl sy'n byw ar ei lan yn dechrau rhoi'r ecosystem dan bwysau.
Rhedai'r ffordd Rufeinig bwysig y Via Egnatia, a gysylltai Durrës a Môr Adria yn y gorllewin â Byzantium (Istanbul) a'r Bosphorus yn y dwyrain, o gwmpas Llyn Ohrid.